Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas, Uxbridge Street; Owen Owens Tanrallt; Grace Ellis, mam Owen Ellis yr eilliwr; ynghydag Owen Thomas y Buarth, aelod gyda'r Wesleyaid. Erbyn y trydydd Sul, yn ol yr adroddiad yma, aeth y lle yn rhy gyfyng, a gwnawd y ddwy lofft yn un drwy dynnu i lawr yr estyll coed a'u gwahanai. Yn ddiweddarach, fe ddywedid, y daeth John Richardson; a Mrs. Hughes, mam y Parch. J. E. Hughes, a wasanaethai gydag ef; a Rhys Jones saer coed, o Engedi, i arwain y canu. Dywed W. P. Williams fod yn ei feddiant ysgrif wedi ei hamseru, Chwefror 10, 1841, ac arni'r geiriau yma: "List of the furniture belonging to Penrallt chapel in the Tanrallt Schoolroom, 10 benches, 2 nog nails for hats, 4 schones." Cof ganddo hefyd, weled cofnodlyfr ysgol Foriah, a gollwyd yn ystod yr atgyweirio ar y capel, yn cynnwys penderfyniad a eiliwyd gan Richard Williams yr ironmonger, i'r perwyl fod yr ysgol i gael ei sefydlu yn Nhanrallt a Glanymor a Stryd Waterloo.

Yr oedd Robert Roberts yn llafurio yma o hyd yn 1852, pan ddaeth Henry Edwards a George Williams, y ddau o Engedi, yma i'w gynorthwyo, ynghyda merch ieuanc, priod John Rowlands y paentiwr wedi hynny. Pan aeth y llofft yn rhy fechan drachefn, cymerwyd llofft yr ochr arall i'r ffordd i'r dosbarth darllen; ond ae aelodau'r dosbarth hwn at y plant yn y llofft arall i ddiweddu'r ysgol. Athro'r dosbarth darllen oedd yr Owen Williams a enwyd o'r blaen, sef ffermwr ger Llanbeblig. Bu Owen Williams Tywyn yn pregethu oddiar risiau'r hen lofft oddiar y geiriau, A phwy bynnag a ddel ataf fi nis bwriaf ef allan ddim.

Mewn cyfarfod undebol o frodyr Moriah ac Engedi fe benderfynwyd codi ysgoldy yma. Sicrhawyd tir, sef gardd, am £25; a chodwyd yr ysgoldy yn 1856, yr holl draul yn £300, ac yn cael ei ddwyn gan Moriah. Dydd Sul, Hydref 26, ydoedd dydd yr agoriad, pryd y pregethwyd gan Robert Owen Rhyl. Yn y pnawn fe holodd yr ysgol oddiar hanes Joseph. Dywedir fod y cyfarfodydd yn siriol a chysurus iawn. (Drysorfa, 1856, t. 420). Trefnwyd yn y Cyfarfod Misol i Siloh fod yn y daith gydag Engedi o Awst, 1857, Siloh yn cael yr oedfa 10 am tua 10 mlynedd a'r oedfa 2 am ddeng mlynedd arall. Dygid traul yr oedfa yn Siloh am yr ystod hynny o flynyddoedd gan Engedi. Yr oedd rhif yr ysgol yn 130 ar y cychwyn. Daeth