Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amryw yma o Foriah ac Engedi i gynorthwyo er dwyn y gwaith ymlaen. Yn eu plith yr oedd y rhai yma: John Owen, Evan Hughes, William Parry, William Williams, John Row- lands, Lewis Jones (Patagonia ar ol hynny), Evan Jones (gweinidog Moriah wedi hynny), John Lloyd (gweinidog yn Awstralia wedi hynny), Richard Humphreys (yn flaenor yn Beaumaris wedi hynny).

Yn Nhachwedd 24, 1859, y sefydlwyd yr eglwys gan y Parch. Thomas Hughes a W. P. Williams. Rywbryd cyn hynny yn ystod y flwyddyn fe ddigwyddodd tro nodedig i John Richardson mewn gweddi ar nos Sul. Ei deimlad a'i hataliai wrth fyned ymlaen; ond torrodd allan mewn gwaedd gofiadwy, "Achub, Arglwydd!" ac yr oedd y dylanwad mor fawr, gan beri gwaeddi a gorfoleddu yn y gynulleidfa, fel y rhuthrodd cryn liaws o bobl i fewn i'r capel. Galwyd seiat ar ol ac arhosodd amryw, i barhau wedi hynny. O hynny ymlaen fe barheid i alw seiat, fel y daeth yn fath o orfodaeth i sefydlu eg- lwys yma. Dywedir mai 25 oedd y nifer ar y cyntaf. Fe welir fod yr eglwys wedi ei sefydlu yn nhymor y diwygiad: yn yr elfen dân y ganwyd hi; ac y mae wedi bod yn ffyddlon i'r ddelw a'r argraff a dderbyniodd y pryd hwnnw. Fe ddywedir y bu yma gyfarfodydd nodedig yr adeg honno. Fe fyddai George Williams yn arfer adrodd am Henry Edwards mewn rhyw gyfarfod gweddi ar ei liniau, yn un o liaws debygir, ac yn torri allan gyda'r geiriau, "Ddemnir mohonof byth! Ddemnir mohonof byth!" a hynny mewn dull oedd yn amlwg wedi gadael argraff neilltuol ar feddwl George Williams.

Mawrth 15, 1860, y cafwyd y cymun cyntaf, y Parch. Thomas. Hughes yn gweinyddu dan deimlad neilltuol a chydag effeith- iolrwydd cofiadwy.

Dywed William Williams mai ymhen blwyddyn a hanner ar ol sefydlu'r eglwys y dewiswyd Henry Edwards a George Williams yn flaenoriaid; ac felly yn 1861. Aeth y capel yn rhy fychan i gynnwys y gynulleidfa. Methodd gan y brodyr sicrhau tir yn y fan y saif y capel cyntaf, i'r amcan o godi capel mwy. Sicrhawyd tir yn y fan y saif y capel presennol.

Gosodwyd carreg sylfaen y capel newydd i lawr gan y Parch. Thomas Hughes, Medi 16, 1868. Agorwyd ef Mehefin 14 a 15, 1869, pryd y gweinidogaethwyd gan y Parchn. John Ogwen