Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, Thomas Charles Edwards, a'r Dr. Charles (Aberystwyth). Traul y capel hwn ydoedd £1,800. Bu Thomas Hughes yn dra ffyddlon i Siloh ar hyd y blynyddoedd hyd nes galw bugail yma, ac yn enwedig yn y blynyddoedd cyntaf i gyd. Gwnaeth lawer o waith bugail yma; a gwerthfawrogid ei lafur yn Siloh yn arbennig. Byddai Henry Edwards a George Williams ar brydiau mewn ymddiddan yn coffau am ei wasanaeth gydag edmygedd o'i ymroddiad a'i ysbryd hunan-aberthol.

Yn 1870 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: John Owen, John Rowlands, William Williams, Evan Hughes.

Byddai'r pregethwr o Engedi yn dod yma y prynhawn am o 6 i 7 mlynedd ar ol agor y capel hwn. Ceid pregeth pan ellid at yr hwyr. Fe gafwyd gwasanaeth John Morris a Robert Owen y Mount, dau o bregethwyr y Wesleyaid, yn o aml y pryd hwnnw. Cynddelw, hefyd, fu yma droion yn y cyfnod hwnnw, yn y pnawn yn ddiau.

Helynt fawr ydoedd helynt y "seithfed reol" yn Siloh yn 1873, a son am dani drwy'r dref i gyd, a phellach na hynny, ond odid. Seithfed reol y Gyffes Ffydd ydoedd honno, sef nad oedd i neb aelod briodi "un digred," sef un heb fod yn aelod. Yr oedd y Gymdeithasfa, pa ddelw bynnag, wedi penderfynu ysbaid cyn hynny fod rhyddid i'r eglwysi weithredu yn y pwnc yma yn ol eu barn leol eu hunain, sef i dorri o aelodaeth neu beidio pan weithredid yn groes i'r rheol. Yr oedd chwaer wedi priodi un o'r byd yn yr eglwys y pryd y crybwyllwyd. Eithr fe gafwyd nad oedd y blaenoriaid eu hunain yn cytuno â'i gilydd i'w thorri o'r eglwys, ac yr oedd llawer o'r aelodau yn erbyn. Mawr y cynnwrf! Bu rai brodyr o'r eglwysi eraill yn y dref yn ceisio cynorthwyo yn yr achos; ond nid llai y tanllwyth am y procio hwnnw. Darfu i fwyafrif y blaenoriaid, ag oedd yn erbyn bod yn llym ym mhwnc y rheol, ddwyn barn i fuddugoliaeth, gan gludo mwyafrif yr eglwys gyda hwy. Ar hynny, wele amryw o aelodau mwyaf blaenllaw yr eglwys yn ymadael Foriah ac Engedi, gan wrthdystio yn erbyn llacrwydd mewn disgyblaeth. Tynnodd hynny gryn sylw. Ni thawelodd pethau eto, canys wele ohebu ar y pwnc am wythnosau bwygilydd yn y Goleuad a'r Herald Cymraeg, a'r corgwn yn cyfarth y lleuad. Rhwng dadwrdd byd ac eglwys, a'r ymladdfeydd ar feusydd y papurau newydd, yr oedd malltod