yn ymdaenu ar waith yr eglwys, a'r olwynion yn cerdded yn drwm fel olwynion cerbydau Pharaoh yn y Môr Coch. Pa beth oedd i'w wneud? Y wraig druan, wrth weled ei hun a'i gwr yn wrthrychau y fath gyffro a chynen tafodau, a ddaeth ymlaen i hysbysu y dioddefai hi ei diarddel am y pryd, er mwyn llesiant yr achos. Ac felly fu. Daeth rhai o'r gwyr a sorrodd. yn eu holau, ond ymadawodd eraill yn eu lle. Ac yna fe ddaeth yr helynt fawr i'w phennod; ac ni chododd mo'r unrhyw anhawster drachefn; a mynnodd synnwyr a gras eu lle.
Dechreuodd Richard Rowlands bregethu tua 1874; symudodd i Drefin, Penfro, 1877, fel gweinidog, ac wedi hynny i Glynceiriog. Bu farw Chwefror 13, 1894, a dodwyd ei gorff i orwedd ym mynwent Llanbeblig.
Rhagfyr 18, 1875, hysbyswyd yn y Cyfarfod Misol alwad John Williams yn fugail, ac ymhen deuddydd fe ymsefydlodd yma fel y cyfryw. Daeth i'r dref o Gaeathro ddwy neu dair blynedd cyn hynny.
Yn 1879-80 cynhaliwyd cyfarfodydd diwygiadol llwyddianus. Bu James Donne, John Richard Hughes a William. Jones Niwbwrch yma gyda'r gwaith. Fe gafodd James Donne, yn enwedig, ddylanwad neilltuol, a gelwid y diwygiad ar ei enw, sef diwygiad James Donne. Daeth amryw o af- radloniaid yr ardal at grefydd dan ei bregethu ef, ac arhosodd rhai ohonynt yn ffyddlon ac yn ddefnyddiol. Bu pregeth i'r Parch. William Jones Felinheli dan arddeliad nodedig y pryd hwnnw. Ei bwnc ydoedd,-Beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i Efengyl Duw? Arhosodd 14 yn y seiat ar ol.
Mehefin 10, 1879, codi T. Morris Jones yn bregethwr. Symudodd i Fagillt yn 1885.
Tachwedd 29, 1880, yn 39 oed, bu farw y Parch. John Williams, wedi bod yn fugail yma am bum mlynedd o fewn tair wythnos. Am ryw ennyd o amser wedi ei alw'n fugail fe ddilynai ei alwedigaeth fel clerc yn offis yr Herald. Pan gafwyd cynorthwy i'w gynnal o drysorfa'r lleoedd gweiniaid fe ymgysegrodd yntau'n gyfangwbl i'r gwaith. Ei nôd arbennig ef fel gweinidog ydoedd ei ymroddiad i fyned allan i'r heolydd a chymell pobl i'r wledd. Cynorthwyid ef yn hynny gan bresenoldeb a gwasanaeth pobl ieuainc yr eglwys. Meddai ef ei hunan, hefyd, ddawn arbennig at bregethu yn yr awyr agored. Yr oedd yn llefarwr rhwydd a hyglyw a dymunol, a chyflwynai yr Efengyl mewn modd agos at amgyffredion pobl go ang-