Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod ei galon yn ei ysgydwad. Yr wyf megys yn ei weled o'm blaen y funud hon ar noson yr ordinhad, yn eistedd ar yr ochr agosaf i'r buarth, a'i ddau lygad ynghaead, a'i ddagrau mawr gloewon yn treiglo'i lawr ei ruddiau rhosynaidd, ac mewn hwyl orfoleddus yn canu, Iddo ef yr hwn a'n golchodd yn ei waed." Mae Mr. Wynne Parry yn dyfynnu sylw Anthropos arno, mewn ysgrif ar feddau mynwent Caeathro: "Un o flaenoriaid Siloh. Gwr ffyddlon, cydwybodol a gwir garedig. Yr oedd yn un o'r gwŷr hynny ag yr ydym yn caru eu gweled mewn sêt fawr, dynion siriol, calonogol, a heulwen yn eu llygaid. Ac fel y dywed Rhisiart ab Gwilym yn ei feddargraff:

Gwirionedd oedd Gair ei enau,—a gras
Oedd grym ei feddyliau."

Yn ystod 1882—3 buwyd yn gwella'r fynedfa at y capel ac yn ei atgyweirio mewn mannau ar draul o £500. Cynhelid moddion bore Sul yn Siloh bach, fel y gelwid wedi adeiladu'r capel newydd; ac yn yr hwyr yn yr ysgol Frytanaidd.

Yn 1884 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: William Parry, Henry Jones, John Jones Treffynnon.

Oddeutu 1885 y dechreuodd Thomas Davies bregethu. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1889. Aeth yn fugail i Nant Gwrtheyrn ac oddiyno i'r Deheudir. Yn 1887 dechreuodd R. Matthew Jones bregethu. Aeth oddiyma yn fugail i eglwys Llanfachreth. Yn 1891 dewiswyd J. E. Hughes, B.A., yn flaenor. Yng Nghyfarfod Misol Ionawr 21, 1892, fe'i cyflwynwyd ef i'r Cyfarfod Misol gan Gyfarfod Dosbarth Caernarvon fel ymgeisydd am y weinidogaeth, heb angen arno am fyned drwy'r prawf arferol; a derbyniwyd ef fel y cyfryw.

Ionawr 24, 1892, bu farw Henry Edwards, yn 61 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 31 mlynedd. Efe, ynghyda George Williams, oedd y ddau flaenor cyntaf yn yr eglwys, a'r ddau amlycaf yn hanes yr eglwys. Cymherir hwy yn y naill a'r llall o'r ddwy lawysgrif ar hanes yr achos i Ddafydd a Jonathan yn eu hymlyniad wrth ei gilydd. A dywed Mr. J. Henry Lloyd y byddai'n teimlo'n wastad wrth wrando ar fynych gyfeiriadau George Williams at Henry Edwards, y mynasai yntau fod ganddo gyfaill cyffelyb i'w adael ar ei ol. Gwelid hwy