Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weithiau yn rhodio gyda'i gilydd ar lan y môr dros yr aber. Nad dod yno i rodianna yr oeddynt, hawdd oedd gweled wrth eu hagwedd; ond dod yno er mwyn llonyddwch uwchben ryw bwnc neu gilydd yn dwyn perthynas â'r eglwys yn Siloh, ag yr oedd yn bwysig myned drwyddo'n llwyddiannus. Wedi gair o gyfarchiad eithaf serchog o'u tu hwy, rhaid ydoedd eu gadael i'w gilydd; canys nid oedd eisieu dim treiddgarwch i wybod mai felly y mynnent fod. Elent yn o bell o ffordd a deuent yn ol drachefn, drosodd a throsodd, ac o hyd yn dynn yn ei gilydd. Pa faint bynnag o serch oedd yma, nid serch er ei fwyn ei hun ydoedd, ond serch er mwyn yr achos. Cwbl wahanol oeddynt o ran dawn ac ardymer; ac oherwydd hynny, mae'n debyg, yn ymglymu yn fwy wrth ei gilydd. Goleubryd oedd Henry Edwards à nwyd angerddol ganddo; tywyll ei bryd oedd George Williams, a thawel ac ysgafn ei dymer: nid yn ddigrifol yn hollol, ond eto'n chwareus, ac yn llawn fwynhau digrifwch tawel. Henry Edwards oedd y mwyaf treiddgar, a George Williams y mwyaf dawnus: Henry Edwards yn tynnu'r peth oddiwrth ei gilydd er mwyn gweled beth oedd ynddo, a George Williams yn chware gydag ef gyda chwerthiniad ysgafn yn ei wddf. Pwys y pwnc a orweddai'n drwm ar feddwl Henry Edwards, a'i holl fryd oedd am argraffu'r pwys oedd iddo ar feddyliau eraill; galw sylw difyr pawb ato y byddai George Williams, fel consuriwr gyda'i belennau euraidd, gan eu taflu i fyny i'r awyr y naill ar ol y llall a'u dal fel y deuent tuag i lawr. Edrydd Mr. Lloyd am Henry Edwards yn cynghori dynion ieuainc: "Byddwch fel pileri ynghanol yr afon, ac nid fel ysglodion yn cael eich dal yn yr edi." Dywed y Parch. Edward Owen Gilfachgoch, gan sgrifennu am y cyfnod oddeutu diwygiad 1859, fod ganddo ffordd i ddod o hyd i fechgyn ieuainc o naws grefyddol yn y dref, a'u tynnu allan i weithio; a dywed na buasai ef ei hun na rhai eraill wedi gadael y rhwyd a'r pysgod onibae am Henry Edwards. Yr oedd Mr. Evan Jones ar un adeg mewn ymddiddan yn nodi allan y fantais arbennig oedd gan Engedi a Siloh er eu cynnydd yn y ffaith fod John Jones y blaenor yn y naill eglwys a Henry Edwards yn y llall: y naill a'r llall yn byw cyn lwyred i'w eglwys ei hun, yn gwylio eu cyfle i ddylanwadu er daioni ar ddynion ieuainc y dref, ac yn meddu'r gallu i sugno eraill i'w cylch eu hunain. Brodor o'r dref oedd Henry Edwards, a magwyd