Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef wrth draed Robert Evans yn Engedi; ac efe yn anad un blaenor arall yn y dref oedd y tebycaf i'r gwr hwnnw o ran dawn ac ardymer a natur ei ddylanwad. Yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati o'r blaen, fe sylwa Anthropos: "Dyn galluog iawn oedd Henry Edwards; ac, ar adegau, fe fyddai ei feddyliau yn rymus a'i barabl yn hyawdl. Cysegrodd ei oes i Siloh, a gwelodd y myrtwydd yn y pant wedi dod yn goedwig hardd." Yn agoriad capel Beulah yn 1886, yn ol yr adroddiad yn y Goleuad (1886, Rhagfyr 11, t. 11), yr oedd efe ac eraill yn cyfarch y cyfarfod, a dywedodd yno rai pethau yn amlwg o'i brofiad ei hun. Wrth gymell i sel gyda'r gwaith, fe ddywedodd fod eisieu deunydd gwydn i ddal ati gydag achos newydd. A chwanegai y gallai ddweyd oddiar brofiad fod rhyw lawenydd nas gŵyr y byd ddim am dano wrth lafurio gydag achos yr Arglwydd Iesu. Bu yn y blynyddoedd cyntaf yn gyd-arweinydd y gân â John Owen; bu'n ysgrifennydd yr eglwys am flynyddoedd; ac efe oedd y cyhoeddwr.

Fel blaenor yn yr eglwys,
Fe wisgai nerth a grym,
A gallai ar amserau,
Ddefnyddio cerydd llym.
Tynerai wrth addfedu,
A throai grym ei nerth
Yn felys, megys ffrwythau haf
Yn Hydref, ar y berth. . . .

Ymwelai â'r amddifaid
A llaw agored, gudd,
Bu'n ffynnon o sirioldeb
I lawer gweddw brudd; . . .

Bu'n dyner yn ei deulu,
Fel haul ar lesni'r bryn,
A'i gariad atynt lifai
Yn gylch o fwynder gwyn; . . .

Wrth gyfaill byddai'n dyner,
Ac iddo byddai'n bur,
Nawddogai'i garedigion
Yn ffyddlon fel y dur.
Os gallai estyn dyrnod
Heb ynddi fawr o ras,
Fe allai faddeu hefyd,
I lawer gelyn cas.