Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tynerwch a gwroldeb
Gyd-drigent yn ei fron-
Llarieidd-dra lleni'r wybren
A nerth y nawfed don. . . .

Ac os caiff ganiatad
Y bore gwyn a ddaw,
Cyn mynd i Dŷ ei Dad,
I edrych yma a thraw,
I weled Siloh'r aiff efe
Cyn cychwyn heibio'r Farn i'r Ne.
 —(R. R. Morris).

Yn 1892 fe ddewiswyd Evan Lloyd Williams yn flaenor. Cyn bo hir fe'i dewiswyd yn ysgrifennydd yr eglwys.

Gorffennaf, 1893, fe ymadawodd y gweinidog, y Parch. R. R. Morris, gan dderbyn galwad i'r Tabernacl, Blaenau Ffes- tiniog, wedi bod yn fugail yr eglwys am 13 blynedd o fewn tri mis. Cyflwynwyd iddo anrhegion mewn cyfarfod ymadawol a gynhaliwyd iddo ef a'r Mri. Thomas Davies a R. M. Jones.

Chwefror 12, 1894, sefydlu J. E. Hughes, M.A., yn fugail yr eglwys. Rhagfyr 16, 1894, bu farw Evan Hughes, tad y Parch. J. E. Hughes yn 63 mlwydd oed, ac yn flaenor yma er 24 blynedd, ac yn drysorydd yr eglwys am gyfnod. Yn y sylwadau coffa arno yn y Cyfarfod Misol, fe ddywedwyd ei fod wedi gweithio gyda'r achos o'r cychwyniad; a bod rhan fawr o bwysau'r achos wedi bod bob amser ar ei ysgwyddau ef; ac iddo fod yn flaenor ffyddlon; ac y teimlid bellach nad oedd angen ond cyfrwng y dyrchafiad iddo, a'i fod ef gyda phendefigion, ie, pendefigion ei bobl ef. Feallai mai tynerwch oedd ei nôd amlycaf; ond meddai'r un pryd ar graffter y gwr tyner. Pelydrai ryw dynerwch yn wastad yng nghanwyll ei lygad. Yr ydoedd yn frodor o'r dref, ac yr oedd ei nain, Sian Hughes, yn hynod am ei chrefydd. Gwnaeth William Prytherch yr hynaf argraff ddwys ar ei feddwl oddiwrth y geiriau, Pridd wyt ti ac i'r pridd y dychweli. Ymgryfhaodd yng ngrym unplygrwydd ac mewn synnwyr ac mewn adnabyddiaeth o ddynion ac mewn penderfyniad meddwl. Yn ei flynyddoedd diweddaf fe siaradai yn y seiat dan deimlad amlwg. Pan alwodd George Williams gydag ef ar un o'r dyddiau diweddaf, ac y gofynnodd iddo pa fodd yr oedd arno, ei ateb ydoedd: "Wel, frawd, mae'r