Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llong yn y porthladd yn barod i gychwyn ac o dan lawn hwyl- iau, ond cael gwynt teg."

Ar ddwyn ymlaen yr eglwys
Yn Siloh rhoes ei fryd,
Ei galon ef a'r achos
Oedd wedi'u toddi'n nghyd.
Galarai'n drist os gwelai
Argoelion cilio'n ol;
Ond yn ei lwydd siriolai
Fel gwanwyn ar y ddol...
O lwybrau prysur masnach aeth
I hafod werdd ei dref;
A ffoi o swn y byd a wnaeth
I rodfa swn y nef.


Cyfododd gwynt teg, aeth y llestr i ffwrdd,
Ac yntau yn canu'n iach ar ei bwrdd. (R. R. Morris).

1895 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: John Williams, Richard Williams. Dewiswyd Richard Williams yn drysorydd yn ddiweddarach.

Chwefror 25, 1899, bu farw William Parry, yn 66 mlwydd oed, yn flaenor yma ers 15 mlynedd, ac yn drysorydd yr eglwys ar ol Evan Hughes. Pan benderfynwyd agor Siloh bach fel lle cenhadol, yr ydoedd efe yn un o'r rhai cyntaf yno, a gweithiodd gyda'r achos cenhadol hwnnw yn dra ffyddlon hyd ei ddiwedd. Un enw arno ydoedd William Parry'r gof; ac enw. arall William Parry Siloh bach. Yr ydoedd yn gefnder i'r Dr. Griffith Parry Carno; ond ni thorrodd lwybr cyffelyb i'r Dr. iddo'i hun. Tra'r oedd y Dr. Parry yn efrydydd eang a manwl, heb ymroi nemor i waith o'r tuallan i'w efrydu, ni ddarfu William Parry, o'r ochr arall, efrydu llawer, tra'r oedd gweithio gyda'r achos crefyddol wrth ei fodd. Prun ddewis- odd y rhan oreu sy'n bwnc arall. Siaradai'n ddyddorol ar ddirwest, a hoffai wneud hynny o flaen tafarn neilltuol yn ardal Tanrallt ag oedd yn gyrchfa lliaws o bobl. yn gyrchfa lliaws o bobl. Ystyrrid ef yn athro da yn yr ysgol. Dywedai'r Parch. T. Morris Jones, mewn llythyr at Mr. Wynne Parry, mai William Parry, ei dad, oedd yr athro goreu y bu efe gydag ef. Yr oedd ganddo ystôr o hanesion am hen bregethwyr a dawn i'w hadrodd. Meddai ar ryw ddawn nwyfus fel siaradwr a chyda phlant. Yr oedd mwy o hynny yn y Dr. Griffith Parry na fuasid yn tybied,