Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o dan ryw drymder dull; yr ydoedd nwyfiant yn amlycach yn William Parry. Fe dorrai ei nwyfiant allan mewn dagrau cydymdeimlad cystal ag mewn digrif ddywediadau.

Medi 27, 1899, bu farw Henry Jones, yn 50 oed, ac yn flaenor yma ers 15 mlynedd, ac yn arweinydd y gân ymhell cyn hynny. Daeth o Engedi yn nechre 1869 i Siloh bach i weithio yno gyda'r Gobeithlu. Fe barhaodd gyda'r gwaith hwnnw i'r diwedd bron, a meddai ar ddawn arbennig gyda phlant. Meddai ar dymer plentyn ei hun: yr oedd yn nwyfus, yn chwareus, yn gyffrous. Cludid ef gan ei deimlad fel plentyn: mwynhae fel plentyn, digiai fel plentyn: dangosai ei fwyniant mewn chwerthin uchel, trystiog, calonnog; dangosai ei ddigter, pan ddigiai, yr hyn ni wnae ond anaml, mewn düwch wynepryd argoelus. Bod yn blentyn oedd ei nerth a'i wendid. Yr oedd iddo farn, yr un pryd, cystal a thymer nwydiog; a chraffter; a gallu i werthfawrogi meddyliau hedegog a dawn brydferth mewn llefarwr. Mewn cwmni, yn enwedig yn ddyn lled. ieuanc, yr oedd yn nwyfus, yn ddigrifol, yn ddoniol, yn hedegog. Gyda'i ddawn fel cerddor, yr oedd y doniau eraill hyn yn gymhwyster arbennig iddo fel arweinydd yng nghyfarfodydd y plant. Yr oedd yn blentyn gyda phlant, er y gallai fod yn wr gyda gwŷr. Meddai ar ddawn rwydd a pharod a dawnus. mewn cyflawniadau cyhoeddus yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Fel arweinydd y gân yr oedd yn fedrus a hwylus. Bu'n ffyddlon gyda phob rhan o'r gwaith. Ni ymroes gymaint i efrydiaeth. Buasai disgyblaeth lem arno'i hun mewn efrydiaeth ddwys o'i ieuenctid wedi bod o werth mawr iddo; eithr fe roes efe ei amser yn hytrach i weithgarwch allanol gyda'r achos. Meddai ar ddawn briodol iddo'i hun yn hynny. Mab ydoedd ef i John Jones, blaenor Engedi, ac yn dwyn llawer o debygrwydd i'w dad. Ceir cryn eglurhad ar nodwedd Henry Jones yn yr ystyriaeth mai deheuwr oedd ei dad. Yr oedd y tad, er yn ddeheuwr, yn debycach i ogleddwr na'r mab: tywynnai a thanbeidiai dawn y de yn Henry Jones. Nid oedd y tad yn ddoniol; ond yr oedd y mab felly. Nid oedd gan Henry Jones nemor bethau cofiadwy chwaith; ond mewn dull ysgafn a rhwydd fe befriai ei ymddiddanion gan ergydion dawnus, pan yn ymollwng mewn cwmni difyr gyda hwyl y funud. Yn llai dawnus, yr oedd y tad yn gryfach cymeriad: yr oedd yn gryfach personoliaeth, wedi myned drwy brofiadau