Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dwysach, a'i deimlad yn fwy dan lywodraeth ei farn. Eithr fe fu Henry Jones yn addurn i'r eglwys yn Siloh.

Yn 1897 fe brynwyd 587 llathen ysgwar o dir chwanegol am £70 ar gyfer capel newydd yn y man y safai yr ail gapel. Agorwyd y capel newydd Rhagfyr 2, 1900. Yr holl draul, £5,000. Buwyd yn addoli yn y Guild Hall o Fedi, 1898, hyd Dachwedd, 1900. Traddodwyd y bregeth gyntaf gan y gweinidog, y Parch. J. E. Hughes,-Y mae tir lawer eto i'w feddiannu. Pregethwyd y Sul, hefyd, gan y Prifathro Prys a'r Parch. S. T. Jones Rhyl; nos Lun gan y Parch. T. Charles Williams; nos Fercher gan y Parch. Wynn Davies Nerpwl; nos Fercher gan y Parch. John Williams Nerpwl.

Fe rydd y ffigyrau yma allan o Ystadegau y Cyfarfod Misol syniad am gynnydd yr achos: Nid oes cyfrif am 1860, am nad oedd blaenoriaid wedi eu dewis eto, mae'n debyg. 1862. Eisteddleoedd, 120. Cyfartaledd pris eisteddle y chwarter, 6ch. Derbyniwyd am eisteddleoedd am y flwyddyn, £6. Rhif yr eglwys, 52. Casgl at y weinidogaeth, £12 13s. 1869. Eisteddleoedd, 530. Gosodir, 250. Cyfartaledd pris eisteddle, Is. Rhif yr eglwys, 110. Casgl at y weinidogaeth, £28. Y ddyled, £1455. 1900. Eisteddleoedd, 850. Gosodir, 622. Rhif yr eglwys, 522. Casgl y weinidogaeth, £168 11s. 4c. Talwyd at ddyled y capel, £665.

Un nodwedd amlwg ar Siloh fu ei hysbryd gwerinol, ac yn hynny yr ydoedd i'w chyferbynu i fesur â'r eglwysi eraill yn y dref; a diau i hynny fod yn un o seiliau ei chynnydd nodedig. Fe gawsai yr ysbryd hwn gyfle i amlygu ei hun yn yr ysgol, yn enwedig yn y pwyllgorau. Byddai ysbryd rhyddid yn teyrnasu yno; a mwynheid yr olwg ar ddadleuwyr ieuainc yn amlygu eu doniau a'u sel. Nid gwrthddywediad ydyw dweyd ddarfod i Henry Edwards a Henry Jones fod yn y swydd o arolygwr am flynyddoedd, y naill a'r llall ohonynt. Yn herwydd eu cydymdeimlad eang y cadwasant eu swydd. Cof gan Mr. J. Henry Lloyd am Harri Parry yn y dosbarth A B C, gyda'i ddarn hir o gutta percha, a ddefnyddid ganddo fel pastwn disgyblaeth. lawn cyn amled ag y byddai eisieu. Ffyddlon fel athro ac yn y Gobeithlu fu William Davies, wedi hynny y blaenor o Foriah. John Parry, mab Harri Parry y gutta percha, oedd athro tra llwyddiannus ar ddosbarth o ddynion yn y gongl yn yr hen gapel. Athro selog arall oedd John Parry y teiliwr, a llawn