cynghorion i'r bechgyn. Betsan Griffith a dywysodd Thomas Jeffreys i'r seiat, gwr o wybodaeth a diwinydd cryf, a wnaeth athro cymwys yn yr ysgol. William, mab John Owen y blaenor, oedd un y disgwylid llawer oddiwrtho mewn gwahanol gylchoedd cystal ag yn yr ysgol.
Pan symudwyd i'r ail gapel yn 1869 fe werthwyd y capel cyntaf, sef Siloh bach, am £200. Prynnwyd Siloh bach yn ol gan Foriah, a bu Moriah a Siloh yn cydweithio yno am ysbaid, ac yna fe drosglwyddodd Moriah y lle yn ol i Siloh. Yn ystod yr amser y bu'r ddwy eglwys yn cydweithio yno, yr oedd William Parry a Mr. R. Norman Davies yn gyd-arolygwyr. Byddai dau yn arwain cyfarfod yr hwyr, y naill o Foriah a'r llall o Siloh. Enwir Miss Davies (Tŷ fry) fel un a wnaeth waith arbennig ynglyn a'r ysgol. Wedi i'r cysylltiad â Moriah orffen, gofelid am yr achos gan chwech o frodyr ynghyda'r blaenoriaid. Ymhen dwy flynedd terfynai gwasanaeth dau o'r chwech, ac yna dau arall bob blwyddyn, ac etholid rhai yn eu lle, os na ail-etholid y rhai cyntaf. Y mae sel mawr wedi ei ddangos gan liaws, ond yn arbennig gan rai yn nygiad gwaith hwn ymlaen, ac yn eu plith fe enwir y rhai yma: Richard Pritchard Coed y marion, John Jones; a chyda'r canu Morris H. Edwards, J. Lloyd Roberts; a chyda'r offeryn cerdd, Gwilym Edwards, Hugh Williams, T. C. Dowell, William Williams.
Fe gyfleir yma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Siloh. Ymwelsom â'r ysgol hon Hydref 18. Rhif yn bresennol, 212. Ieuainc ar y cyfan yw aelodau'r ysgol yma, ac ychydig iawn mewn cymhariaeth yw nifer y rhai mewn oed, ac eithrio'r athrawon ac athrawesau. Arddanghosir sel a gweithgarwch mawr, a dygir y cwbl ymlaen yn fywiog a threfnus. Ni fabwysiedir cynllun yr ysgolion dyddiol yn addysgiant y plant yma eto, a theimlem eu bod ar eu colled yn fawr o'r herwydd, am fod yn yr ysgol gynifer o blant a phrinder athrawon. Yn ol eu dull presennol o gyfranu addysg ystyriem fod rhai o'r dosbarthiadau yn rhy luosog. Yn y dos- barthiadau hynaf amcenir at gymhwyso'r gwirionedd at y gydwybod yn gystal a'r deall. Ar ddiwedd y darllen cymerir tua 10 munud i ganu, ac yr oedd yma ganu da a gafaelgar. Yr oedd yn Siloh, ac mewn rhai ysgolion eraill y buom ynddynt, un peth y dymunem ei argymell i sylw yr ysgolion yn gyffred-