Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

inol, sef presenoldeb yr athrawesau yn y cyfarfod athrawon. A chymeryd popeth i ystyriaeth, y mae yn Siloh ysgol dra llewyrchus. Siloh bach. Hydref 11. Yn bresennol ar y pryd, 139. Dywedid wrthym fod 115 o'r plant oedd yno, a adewir gan eu rhieni fel cywion yr estrys, yn cael gweinyddu iddynt addysg bur effeithiol. Bydd raid i'r ddisgyblaeth weithiau fod yn bur lem. Y mae yma rai dosbarthiadau wedi cyrraedd gradd dda fel darllenwyr. Y Rhodd Mam yw'r unig holwyddoreg a ddefnyddir yma. Mewn rhai dosbarthiadau ceir board; eithr ni wneir y defnydd priodol ohono, ond rhoir gwers o un i un. Ni ymgymerir â maes y Cyfarfod Misol am nas gallant gystadlu â rhai mwy eu manteision. Ni chynrychiolir yn y cyfarfod ysgolion. Ar y cyfan gwneir gwaith da. Samuel Rees Williams, John Hughes."

Y mae'r cyfarfod pregethu wedi bod yn sefydliad pwysig yma. Cynhelid ef ar y Nadolig yn y blynyddoedd cyntaf, a chynhaliwyd y cyfarfod yn ddifwlch, neu'n agos felly, o adeg agoriad y capel cyntaf. Wedi symud i'r ail gapel cynhaliwyd y cyfarfod yn goffadwriaeth o'r agoriad, sef ym mis Mehefin. Bu'r casgliadau yn y cyfarfodydd hyn o gryn gynorthwy tuag at leihau'r ddyled. Sonir am rai odfeuon anarferol, megys eiddo'r Dr. William Roberts (America) yn 1873 am yr annuwiol yn cael ei yrru ymaith yn ei ddrygioni, pan y torrodd allan yn orfoledd cyn diwedd y bregeth; ac oedfa'r Dr. Hugh Jones, Ond y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner, pan yr oedd tramynychiad pwysleisiol y gair ond yn effeithiol iawn; a phre- geth fawr y Dr. Lewis Edwards ar yr ymwaghad-y bregeth fwyaf a draddodwyd er dyddiau'r Apostol Paul, ebe Henry Jonathan, prun bynnag a gytunir â hynny ai peidio. Ar ol dyddiau'r hen oruchwyliaeth gyda'r canu, bu'r arweiniad gyda Henry Jones. Dysgai ef donau newydd i'r gynulleidfa; ond nid mewn celfyddyd y rhagorai yntau ond mewn ysbrydiaeth, a chytunai ei arddull fel arweinydd âg ysbrydiaeth y lle. Ymhen amser penodwyd dau mwy hyddysg yn y gelfyddyd i'w gynorthwyo, sef John Davies a Henry Edwards ieuengaf. Cafwyd côr canu yn 1882. Dan arweiniad John. Davies fe wellhaodd y canu yn araf deg. Wedi ymadael o John Davies i Nerpwl bu eraill yn wasanaethgar gyda'r canu, sef W. Hughes, Robert Rogers, Owen Robinson, T. C. Dowell, M. H. Edwards. Yn amser y capel cyntaf bu John Jones