Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(Druid) a'i frawd Stephen Jones yn cynorthwyo gydag addysgu'r plant gyda chanu.

Y meibion yn unig a ddeuai i'r Gymdeithas Lenyddol ar y cychwyn. Wedi agor y Gymdeithas i'r merched, fe eisteddai y merched yn y sêt fawr a'r meibion ar y llawr, hyd nes y tywynnodd goruchwyliaeh fwy eangfryd. Y gweinidog, sef y Parch. John Williams, fyddai'n gadeirydd. Bu dyfodiad y gweinidog newydd, y Parch. R. R. Morris, ac Anthropos yn gaffaeliad i'r Gymdeithas, a bu llewyrch neilltuol arni yn ystod gweinidogaeth Mr. Morris, pryd y byddai efe yn llywydd ac Anthropos yn is-lywydd. Bu gan Mr. Morris, hefyd, ddosbarth mewn gramadeg Cymraeg ac yng Nghyfatebiaeth Butler. Erbyn diwedd cyfnod yr hanes yma yr oedd gan Mr. J. E. Hughes ddosbarth diwinyddol llewyrchus.

Cynhaliwyd y cyfarfod llenyddol cyntaf yn 1877 neu'r flwyddyn ddilynol, y Parch. John Williams yn arwain. Cyfododd y cyfarfod hwn, drachefn, i fri mwy gyda'r un gwŷr ag y soniwyd am danynt mewn cysylltiad â'r Gymdeithas Lenyddol.

Tybia Mr. Wynne Parry y dechreuwyd cynnal cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc yma yn y blynyddoedd cyntaf i gyd, ond y bu pall arno am ysbaid.

Yr oedd y Gobeithlu yma er yn gynnar yn amser y capel cyntaf, a Henry Edwards yn llywydd. Yna Henry Jones gyda llwyddiant nodedig; yna y Parch. R. R. Morris, Anthropos a John Parry y teiliwr, bob un ohonynt yn meddu ar neilltuolrwydd dawn gyda'r plant.

Fe grynhoir yma sylwadau Mr. Wynne Parry ar rai brodyr a chwiorydd. Gwr ieuanc galluog oedd Hugh Price. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a phan yn gweithio gyda'r troed pren byddai'r Beibl a'r Hyfforddwr o'i flaen. Fe bregethai yn achlysurol yn yr awyr agored. Bu'n selog yn y capel cyntaf. Brawd i William Parry y gof oedd John Parry y teiliwr, ac felly yn gefnder i'r Dr. Griffith Parry. Daeth i Siloh bach o Foriah. Gwr tawel, siriol, heb hoffi cyhoeddusrwydd, neu gallesid disgwyl iddo fod yn flaenor. Yr oedd ganddo ddosbarth lluosog o ddynion ieuainc, a llafuriai yn galed gogyfer â hwy. Yr oedd yn gryn ddarllenwr, a mwynheid ei ddull difyr yn y Gymdeithas Lenyddol. Yr oedd yn ddihafal am adrodd hanesyn yn y Gobeithlu, ac yma y disgleiriai fwyaf. [Gyda thuedd enciliedig yr oedd rhyw elfen nwyfus neilltuol