ym meddwl y gwr yma, ac ym mhresenoldeb plant y deuai ei ddawn arbennig i'r golwg. Yr oedd awch nad anghofid ar ei sylwadau pan droai i'r dull duchanllyd.] Yr oedd Hugh Owen Rhosbodrual yn flaenor cyn dod i Siloh, er na alwyd mono i'r swydd yma. Gwr anaml ei eiriau, eto siriol ei ysbryd, ac yn ddiamheuol dduwiol. Melys ei brofiad yn y seiat. Daeth Thomas Lewis Twtil yma o Nazareth. Gwr ieuengaidd ei ysbryd a nodedig mewn gweddi. Llawn afiaeth yn y Gymdeithas Lenyddol, ac yn elyn anghymodlon i'r "Inglis Cós" ac i Ddic Sion Dafydd. Hoffid ef gan yr ieuainc.
Ond aeth y gweddïwr o'r diwedd ei hun
Ar ol yr aneirif weddïau, fel un
A wyddai y ffordd i'r ardaloedd di-bla—
'Roedd wedi ei dysgu i'w theithio yn dda.
Deuai Ellen Jones Lôn fudr i Siloh bach, a gorfoleddai yno yn barhaus. [Edrycher Engedi.] Catsen Owen oedd un arall a orfoleddai'n barhaus, a Jane Hughes Hen ardd a Margaret a Jane Parry ac Elin Jones Cae Annws, a ddeuai i'r capel yn ei dwy facsen lân â'r Beibl mawr o dan ei chesail. Yr oedd y rhai'n i gyd yn y capel cyntaf, a'u henwau'n perarogli sydd. Y mae gan Mr. J. Henry Lloyd gyfeiriad at frawd a chwaer o gyfnod y capel cyntaf, y brawd yr un a soniwyd am dano eisoes. "Un o athrawesau'r hen gapel oedd Miss Williams, wedi hynny Mrs. Williams Stryd Llyn. Addfwynder oedd yn ei nodweddu. Byddai rhyw wên siriol ar ei hwyneb. Meddai ar allu mawr a sel danbaid dros yr achos. Mawr y golled a'r hiraeth ar ei hol. Yr wyf yn tybied fod Hugh Price wedi ei fagu yn yr ysgol yn yr hen lofft. Gwr ieuanc rhagorol iawn. ac o wasanaeth mawr. Disgwylid pethau mawr oddiwrtho; ond gartref y bu gorfod arno fyned."
Cyn terfynu cyfnod yr hanes hwn fe gyflwynwyd i George Williams anerchiad a phwrs fel gwerthfawrogiad o'i lafur. Dyma atgofion y Parch. T. Morris Jones, gan adael allan ychydig bethau y bu cyfeiriad atynt o'r blaen. "Y mae pob carreg yn hen gapel Tanrallt yn gysegredig iawn yn fy ngolwg. Dyma fy nghrud. Ynddo y clywais y gorfoleddu cyntaf. Yr oedd yno hen chwaer, Jane Williams, y byddai cyfeiriad tyner at Galfaria yn ei chyffwrdd ar unwaith, a chofiaf yn dda am dani yn lluchio ei breichiau i fyny ac yn gweiddi dros y lle. Y