Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blaenoriaid cyntaf wyf yn gofio oedd y Mri. Henry Edwards a George Williams, a deallaf fod Mr. George Williams yn parhau eto gyda'r achos yn dirf ac yn iraidd, a hir y parhao ei fwa yn gryf. [Ac felly y gwnaeth nes ei alw ymaith wedi ysgrifennu hyn.] Un o'r amgylchiadau a gafodd argraff arnaf yn yr hen gapel ydoedd i'r Parch. Richard Owen Llangristiolus, y diwygiwr wedi hynny, wrth wrando ar y plant yn dweyd eu hadnodau, ofyn i mi,—Faint yw eich oed, machgen i?' Saith,' meddwn ninnau. Wel,' meddai yntau, 'penderfynwch ddysgu darllen cyn bod yn wyth.' Gwnes felly, ac yr wyf yn sicr i'w air suddo i'm meddwl. Symudiad mawr oedd symud o'r hen gapel i adeiladu capel newydd, ac yr wyf yn cofio'n dda y dyddordeb angerddol a gymerwn yn y capel newydd—myned i'w weled bob dydd; ac y mae llawer o fy atgofion crefyddol boreuol eto yn gymhlethedig â'r capel hwn. Y bugail cyntaf a alwyd gan yr eglwys oedd y Parch. John Williams. Bu Mr. Williams yn dra ymdrechgar, yn athro llafurus a llwyddiannus gyda'r ieuenctid. Yr wyf yn ddyledus iddo yn yr ystyr hwn. Teimlaf yn ddiolchgar am gyfleustra i roddi blodeuyn ar fedd y gwas da hwn i Grist. Cyn i'r eglwys alw bugail, gwasanaethid yr eglwys gan amryw o hen weinidogion y dref, megys y Parchn. Thomas Hughes (bu ef bob amser yn ewyllysgar i wasanaethu'r achos hwn), William Griffith, John Jones, Evan Williams, David Williams, Robert Lewis, William Williams a Dr. Morris Davies; a byddent oll, er yn aelodau ym Moriah neu Engedi, yn barod iawn i roddi unrhyw gynorthwy o dro i dro. Y bugail dilynol oedd y Parch. R. R. Morris. Bu Mr. Morris eto'n hynod lwyddiannus, ac yn sicr cyflawnodd waith mawr dros y Meistr yn y lle. Credaf mail blynyddoedd o lwyddiant cyson oedd y blynyddoedd y bu ef yn gweinidogaethu yma, a cholled drom oedd ei ymadawiad. Dynion rhagorol oedd y blaenoriaid i gyd; ond i mi, pan yn fachgennyn, y brenin oedd Mr. Henry Edwards. O'm mebyd edrychwn arno ef fel tad ac arweinydd, ac iddo ef yn gyntaf yr hysbysais fy awydd i ddechre pregethu; ac yn y blynyddoedd hynny credaf mai ato ef yr aethai unrhyw un o Siloh yn gyntaf i hysbysu neu i ymgynghori ynghylch unrhyw beth o bwys. Edrychid arno fel dyn o allu meddyliol cryf, cyflym, a siaradwr grymus, a'i enaid yn glymedig â'r achos yn Siloh; ac i mi y mae Siloh a Henry Edwards yn anwahanadwy. Diau