Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn hysbys am y nifer o bregethwyr a gychwynasant yn Siloh. . . . Yr oedd Mr. Richard Hughes, a hunodd yn yr angeu cyn myned i'r weinidogaeth, yn meddu dawn helaeth, ac yn un o'r dynion ieuainc mwyaf gweithgar a fu mewn unrhyw eglwys erioed. Amser a ballai i mi enwi eraill—brodyr annwyl iawn, yn hen ac ieuanc—a berthynent i'r eglwys hon, ac oedd yn weithwyr difefl yn y winllan."