Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENYGRAIG.[1]

YN y Trysor i'r Ieuenctid am 1826 (t. 89), fe ddywedir fod un o'r athrawesau yn yr ysgol a gynhelid yn Is-Helen [Isalun] wedi gofyn i eneth 12 oed, oedd ar ymadael oddicartref i wlad arall beth a gae hi ganddi yn rhodd o ffarwel, pryd yr atebodd yr eneth nad oedd ganddi hi ddim ond y penodau a ddysgasai; ac yna fe adroddodd "rifedi lluosog iawn." Cangen ysgol o Foriah ydoedd hon; ond yr ydoedd yn gychwyniad yr achos ym Mhenygraig. Y mae taflen berthynol i ysgolion y dosbarth yn dangos fod yma ysgol yn 1819, ond pa faint cyn hynny ni wyddis. Cyfartaledd y presenoldeb y pryd hwnnw ydoedd 11 neu 12

Yn ddiweddarach fe gedwid Isalun gan Ann Pritchard a'i gwr. Yr ydoedd hi'n wraig o brofiad crefyddol. Fe'u trowyd hwy o'r lle, ac fel y deallid ganddynt hwy yn bendant am gadw'r ysgol yno. Awd oddiyno i'r Brynglas.

Fe gyfleir yma atgofion y Dr. Griffith Griffiths o'r ysgol yn y Brynglas ac o'r eglwys ym Mhenygraig: "Dechreuais fynychu ysgol Brynglas [ardal Isalun] yn 1860, sef y flwyddyn y daethom i fyw i Gefnysoedd. Cynhelid yr ysgol ar fore Saboth yn y ddau dy sydd dan untô. Yr oedd hen wraig a elwid Betsan Elias yn byw yn un a'i merch (Mrs. Williams) yn byw yn y llall. Lle digon anghyfleus oedd yno am fod y tail mor fychain. Cynhelid dau ddosbarth yn yr ystafelloedd gwelyau, sef un yn ystafell wely pob tŷ. Yr oedd dau wely ym mhob un o'r ystafelloedd hynny, a dim ond rhyw bum troedfedd rhyngddynt; ac eisteddem yn ddwy res ar y gwelyau, gan wynebu ein gilydd. [Un gwely yn y tŷ pellaf o'r dref, ebe gwr arall fu'n myned yno.] Fe osodai'r dosbarthiadau eraill eu hunain, oreu y medrent, ar ystolion, cadeiriau a meinciau mewn gwahanol leoedd yn y tai. Pan orffennid darllen, deuai'r holl ddosbarthiadau i un tŷ, sef yr agosaf i'r dref, i gael eu holi. Gwesgid ni yn dynn yn ein gilydd, fel mail sefyll oedd raid i bron bawb drwy'r rhan hon o'r gwasanaeth. Ym misoedd poethion yr haf fe symudid i'r Ysgubor isaf,

  1. Atgofion y Dr. Griffith Griffiths, y cenhadwr gynt. Atgofion y Parch. W. Morris Jones (Birkenhead).