Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond o bopeth a wnaeth, y cyfarfod a arferai gynnal am ddau neu dri mis o bob blwyddyn gyda rhai ar fedr cael eu derbyn. yn gyflawn aelodau oedd y mwyaf effeithiol. Ni welwyd y cyfarfod hwnnw yn fwy na naw o ran nifer, a bu cyn lleied a phedwar. Tybid ar yr olwg gyntaf fod rhyw bellter mawr yn Mr. Roberts; ond yn y cyfarfodydd hynny ceid ef y mwyaf agos, y mwyaf tyner, y mwyaf hawdd myned ato. Sylwodd un o'r brodyr mai yn y cyfarfodydd hynny y cafodd efe fwyaf o bleser a gafodd erioed. 'Y cyfarfodydd â mwyaf o ddifrifwch ynddynt a welais erioed; y cyfarfodydd a mwyaf o Dduw ynddynt a welais erioed. Er mai cyfarfod bach o ran nifer, arferai ddechre a diweddu fel cyfarfodydd eraill. Yr oedd ei waith yn diweddu rhai ohonynt yn beth nad aiff byth oddiar fy nghof. Credaf fod y cyfarfodydd hynny wedi ateb diben. Ni welais eto ddiarddel yr un a ddygwyd i fyny yn y cyfarfodydd hynny. Yr oedd ei holl lafur acw yn fawr ac yr oedd yn llafur cariad.' Sylwai'r Parch. T. Roberts Jerusalem ar y golled a gawsom fel colled gyffredinol—colled cenedl, ac eto yn golled neilltuol. Collwyd llawer o'n gwlad ac o Gymru, ag y byddai'r wlad fel y cyfryw yn teimlo'r golled, ond na byddid tua chartref, hwyrach, yn teimlo nemor golled; ond dyma golled sydd yn un gyffredinol, ac, ar yr un pryd, yn un neilltuol iawn. Rywfodd y mae Mr. Roberts wedi iddo fyned. oddiyma yn ymddangos yn llawer mwy na phan yma gyda ni. Nid yn fwy defnyddiol; ond yn fwy dyn. Y mae'n werth meddwl am ei hyder yn yr Efengyl—yng ngwirionedd syml a phlaen yr Efengyl. Ac y mae meddwl am dano yn ei waith, yn ei drefn gyda'i waith, yn ei ymroddiad i'w waith—meddwl mor ddiesgeulus i'w orchwyl oedd-yn gerydd miniog ar ddyn sydd heb fod felly. Cyfeiriodd Mr. E. Roberts Engedi ato yn ei ddyddiau boreuol. Yr oedd yn nodedig o lafurus, ac wedi rhoddi ei fryd ar feistroli cerddoriaeth yn enwedig. Yr oedd ei ymroddiad i lafur ar un adeg mor fawr fel na chysgai fwy na rhyw bedair awr yn y diwrnod. Astudiai y German, y Lladin a'r Roeg y pryd hwnnw. Yr oedd yn ddyn y gellid ei godi i fyny i fod yn esampl i ddynion ieuainc Arfon. Dylasai Arfon fod wedi gwneud mwy ohono gyda chaniadaeth y cysegr. Y mae caniadaeth yn Arfon yn is nag y dylasai fod. Dywedai'r Parch. D. Rowlands fod colled y Cyfarfod Misol yn fawr am dano fel dyn pur, gonest, ffyddlon, a ffyddlon i'r Iesu. Er