Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O'r dechre cyntaf fe geid cyfarfod plant ar nos Sadwrn a wnaeth lawer o les yn y ffordd o ddeffro meddylgarwch ynom fel plant. Yr oedd dau reswm dros ei gael nos Sadwrn. Yn un peth am ei bod yn gyfleus i Mr. Methu Griffith. Peth arall, fe geid y pregethwr i gynorthwyo, pan ddeuai i Lanfaglan nos Sadwrn ar gyfer oedfa'r bore. Ni fu'r cyfarfodydd hyn yn ddifwlch; ond pan gynhelid hwynt yr oeddynt yn bur boblogaidd, ac yn creu llawer o weithgarwch gyda'r plant."

Hyd yma y cyrraedd nodiadau y Dr. Griffiths. Rhaid chwanegu eto rai pethau. Bu ryw gymaint o gynhyrfu am ysgoldy yn hir cyn ei chael, canys y mae'r cofnod hwn ar gadw ar gyfer Awst 10, 1857: "Achos adeiladu ysgoldy yn Isalun i'w gyflwyno i'r ysgolion Sabothol yn Arfon." Ymhen chwe blynedd, pa ddelw bynnag, fe gafwyd capel. Prynnwyd y tir ar brydles o 99 mlynedd, am ddeg swllt y flwyddyn.

Yn 1875 fe gyflwynwyd y Dr. Griffith Griffiths i sylw fel ymgeisydd am y maes cenhadol. Ni wyddis mo'r amseriad ar gyfer dewis William Humphreys a Methusalem Griffiths yn flaenoriaid.

Mai 14, 1877, bu farw Ieuan Gwyllt yn 54 oed. Daeth yma o Gapel Coch, Llanberis, lle'r ydoedd yn fugail, a gwnaeth waith efengylwr yma yn ystod wyth mlynedd ei drigias. Daeth dan ddylanwad Moody a Sankey yn ystod eu hymweliad cyntaf â'r wlad hon oddeutu tair blynedd cyn ei farw, a deffrodd hynny ysbrydiaeth newydd ynddo fel pregethwr. O hynny ymlaen yr oedd yn symlach ac angerddolach; a dywedid ar y pryd fod. ei bregeth olaf, a rowd yma, ar Y gelyn diweddaf a ddinistrir yw yr angeu, yn un nodedig, yn llawn trydan byw. Yr un modd yr ymddiddan yn y seiat y nos Lun dilynol. Wrth sôn am hen grefyddwyr oedd wedi myned i'r nefoedd, fe dorrodd yntau allan,—"Yn wir, braidd nad wyf y funud hon yn teimlo hiraeth am gael bod gyda hwy." Ymhen rhyw wythnos ac awr i'r funud honno, yr ydoedd yn cymeryd ei aden tuag yno. Y mae'r cofnodiad o'r sylwadau coffhaol yn y Cyfarfod Misol ymherthynas iddo ef yn anarferol o lawn. Dodir hwy yma: Sylwai'r Mri. W. Humphreys Llanfaglan a Methusalem. Griffith Penygraig, ar y golled a gawsant ym Mhenygraig. Teimlent fel plant amddifaid wedi colli eu tad. Yr oeddynt wedi colli eu cefn. Gwnaeth lawer iawn yno gyda phob peth;