Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y man i'r Bwlan, fe adawyd yr eglwys dan faich go drwm o ddyled. Ar ol gwneud pob ymdrech yr oedd £230 yn aros yn niwedd 1881. Fe'i cliriwyd yn llwyr erbyn 1898.

Chwefror 27, 1885, bu Richard Humphreys Plas Llanfaglan. farw yn 87 oed, yn flaenor yma o'r dechre, a chyn hynny yn y Bontnewydd er 1850. Gwr o ymddanghosiad anarferol, yn chwe troedfedd neu ragor o daldra ac yn llydan yn gyfatebol ac yn gydnerth. Pen hir heb fod yn gul, wyneb hir heb fod yn gul, clust gyn hired ag eiddo Hiraethog ac yn lletach na honno ac yn is i lawr y pen. Croen rhychiog. Llygaid craff, heb fod yn loewon nac yn dreiddgar; ond yn sefydlog graff ar yr hyn a ddeuai o fewn cylch eu gwelediad. Y symudiadau corfforol yn araf a phwyllog, yn arwyddo cryfder yn fwy na hoewder. Rhyw gyffyrddiad o urddas tawel, naturiol, dros y cwbl: yr urddas hwnnw i'w deimlo yn y capel, yn y teulu. Cyferchid ef gan ei feibion fel Syr, a gweddai hynny iddynt hwy ac iddo yntau. Y glust go isel yn arwyddo gallu bratheiriog, yn yr hyn yr oedd yn nodedig pan fynnai ddangos y gallu hwnnw: y gair brathog yn dod yn dawel a phwyllog a llym ac oeraidd, yn cyrraedd yr amcan i'r dim, ar y pryd o leiaf. Yr oedd ynddo ymwybodolrwydd tawel o nerth, y fath a barai nad oedd ynddo ddim rhithyn o gais i ymddangos fel hyn neu fel arall. Fe gymerai ei hun yn gwbl yr hyn ydoedd, heb amcan i fod ddim yn fwy na dim yn wahanol. Amhosibl bod yn ei ŵydd heb deimlo ei rym tawel. Gwell ganddo i eraill siarad yn y capel, ond medrai ddweyd gair yn gryno a phwrpasol. Ei gylch, debygid, oedd yr ymarferol. Yng Nghofiant Dafydd Morgan y diwygiwr, fe ddywedir am ei gyfarfod ef yn y Bontnewydd ar fore Mercher, pan yr oedd ffair yn y dref, fod amaethwr cyfoethog a llewaidd o flaenor wedi awgrymu rhoi pen ar y seiat, gan ei bod yn myned yn hwyr. Nid cwbl foddhaol yr awgrym gan y diwygiwr. Diau mai Richard Humphreys oedd y gwr llewaidd hwnnw. Fe edrychai ef o'i amgylch yn dawel a phwyllog, gan gymeryd y naill hanner o'r olygfa i fewn yn gystal a'r hanner arall. Bu'n ffyddlon gyda'r achos ar hyd ei oes; ac yr ydoedd yn wr dichlynaidd ei foes, cymwynasgar yn ei ardal, ac urddasol ei agweddiad o ran corff a meddwl ac ymarweddiad. Medrai wneud cyfeillion o wŷr fel Dafydd Jones Treborth a John Owen Ty'n. llwyn. Ac yn ei deulu yr oedd yn frenin, a'r teulu lluosog