Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/252

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnnw yn ei holl aelodau yn hyfrydwch iddo ac yn addurn arno. Y cofnod yn y Cyfarfod Misol am y coffa a fu am dano yno ydyw,-Un o ragorolion y ddaear.

Yn 1885 dewiswyd John Jones Plas Llanfaglan yn flaenor. Yn 1889 yr oeddid yn derbyn W. Morris Jones yn bregethwr yn y Cyfarfod Misol. Yn 1893 fe symudodd i'r Diserth, gan dderbyn galwad i fugeilio'r eglwys. Yn 1890 fe dderbyn- iwyd W. D. Williams yn flaenor yn y Cyfarfod Misol. Yn 1892 fe dderbyniwyd W. Williams yn flaenor.

Yn 1893, fe wnaed coffa yn y Cyfarfod Misol am Ebrill 10 am R. Hughes Tŷ eiddew, i'r perwyl ei fod yn dra chydnabyddus â'r Beibl a Gurnal. Fe arferai'r Parch. Richard Humphreys ddweyd am dano na welodd efe mo neb fedrai gloi seiat yn well drwy grynhoi ynghyd wersi yr ymddiddan. Yr oedd yn wrandawr craffus ar bregeth. Bu'n llawer o gyn- orthwy mewn rhai cyfeiriadau i'r achos yma. Yn 1893 neu oddeutu hynny y symudodd Methusalem Griffiths i Beulah. Fe gadwai'r tŷ capel yma, ac yr oedd ei gwmni yno yn sirioldeb i bregethwr. Bu'n wr gwerthfawr yn y lle yma. (Edrycher Beulah).

Fe gyfleir yma atgofion Mr. W. Morris Jones: "Am ryw ddwy flynedd neu dair y bum yn yr ardal hon [neu ynte aelod yn Siloh oedd Mr. W. Morris Jones fel ei frawd, y Parch. T. Morris Jones, Gronant]. Son yr oedd y bobl am y blynyddoedd o'r blaen fel rhai lled lewyrchus ar yr eglwys, sef cyfnod adeiladu'r capel newydd. Sonient lawer am Mr. Humphreys Llanfaglan, Ieuan Gwyllt a Mr. Williams y Fron. Mi fuaswn yn tybied mai dyn o awdurdod a nerth oedd Mr. Humphreys: pawb yn edrych i fyny ato ac yn ei ofni a'i barchu. O ran ei ymddanghosiad, swn ei lais, a grym ei gymeriad fe hawliai barch. Canmolid llafur Ieuan Gwyllt, ac yr oedd ei ol ar liaws o fechgyn a genethod ieuainc yno. Yr oedd rhai o honynt yn gyfansoddwyr gwych. Dygai Ieuan Gwyllt fawr sel dros y rhannau dechreuol o'r gwasanaeth. Pan welai rhywun yn dod i fewn wrth ledio pennill neu ddarllen y bennod, fe safai'n stond. gan ddilyn â'i lygad llym y diweddarion o'r drws i'w seti. Nid anfynych y rhoddai orchymyn cyn dechreu'r bennod i ddal y rhai diweddar wrth y drws hyd nes gorffen darllen. Dyn rhadlon, braf, oedd Mr. Williams y Fron. Nid oedd pall ar ei garedigrwydd i'r eglwys. Yr oedd yn eilun yr ardal. Deuai