ag un o brif bregethwyr Nerpwl gydag ef i fwrw Sul yn y Fron, gan drefnu iddo bregethu ddwywaith y Sul hwnnw. Llawer gwledd fel hyn a gafodd yr eglwys yng nghysgod y Fron. Dyn byrr, lysdi oedd Richard Hughes Tŷ eiddew. Athro da ac ysgrythyrwr medrus. Nid oedd ganddo nemor ddawn gweddi, er yn eithaf rhwydd. Yr oedd yr achos yn bur agos at ei galon. Credaf y cawsai gam weithiau, oblegid fod cryn lawer o ddireidi bachgennaidd yn ei nodweddu hyd ei henaint. Ei brif gynorthwy oedd Mrs. Jones Llanfaglan. Ni ŵyr neb y gwasanaeth a fu hi i'r achos. Yr oedd ganddi galon fawr, ac yr ydoedd yn hael a pharod ei chymwynas i'r achos. Y Parch. Richard Humphreys oedd y gweinidog pan ddechreuais i bregethu yn y lle, ein dau ugain mlynedd wedi hynny yn weinidogion yr eglwysi agosaf yn Nerpwl. Un noson yr oeddwn yn dweyd ychydig ar brawf o'i flaen yn y seiat yn bur grynedig, canys fe gadwai ef gryn bellter rhyngddo'i hun a'r aelodau. Digwyddai fod gennyf ddalen o bapur o'm blaen ar y Beibl rhag i mi syrthio i brofedigaeth. Eisteddai Mr. Humphreys yn agos i'r lle yr oeddwn i'n sefyll, ei benelin ar y bwrdd, a'i ben yn pwyso ar ei law. Yn amryfus syrthiodd y ddalen i lawr. Yr oedd arnaf flys ei chodi, a thonn o chwys oer wedi dod drosof; ond pan yn gogwyddo at hynny, beth welwn i ond Mr. Humphreys yn rhoi ei droed ar y papur. Wel,' meddwn wrthyf fy hun, 'does gan y gweinidog ddim meddwl o'm tipyn pregeth, gan ei fod yn ei rhoi dan ei droed.' Wedi i mi gyrraedd y pen ryw lun, meddai Mr. Humphreys wrthyf, Rhoddais fy nhroed ar y papur yn fwriadol rhag i chwi ei godi, ac i geisio'ch diddyfnu oddiwrth yr hen arferiad ffol o ddarllen pregethau.' Da gennyf ddweyd i'r wers brofi'n fendithiol i mi, ac ni fu gennyf bapur o'm blaen fyth ond hynny. Y gweinidog fyddai'n gwneud popeth bron o swydd blaenor, a braidd nad oedd yn hoffi'r gwaith. Credai ef y dylai fod cryn lawer o waith a dirgelion eglwys yn llaw y bugail. Efe fyddai'n galw ar rai ymlaen i gymeryd rhan yn y cyfarfodydd. Clywais ef yn dechre ac yn diweddu ugeiniau o seiadau ei hun. Ei ddull o gadw seiat fyddai gofyn am adnodau. Ni phwysai ar neb am ddim. Os cae adnod, fe siaradai rai prydiau yn odidog arni; brydiau eraill yn hwylio dipyn ar led, fel bydd pawb yn eu tro. Efe fyddai'n gofalu am lyfr casgliad mis ac yn galw enwau, a llithrai dros yr enwau fel
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/253
Gwedd