Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NAZARETH.[1]

YN ardal Pontrug y mae capel Nazareth. Saif yr ardal yn rhan isaf plwyf Llanrug, oddeutu dwy filltir o Gaernarvon, ar ffordd Llanberis. Y mae'r Bont yn croesi'r afon Saint ar y briffordd. Ymddolenna'r Saint drwy ddyffryn tlws dros ben ger llaw yma: ymddolenna yma fel yn methu ganddi wneud ei meddwl ar ymadael oddiyma. Adeiladwyd y bont bresen- nol yn 1770. Rhydd Mr. E. W. Evans rif y boblogaeth yn 150 yn 1891.

Fe gyfrifid yr ardal hon cyn sefydlu ysgol Sul yma yn un fwy anystyriol na chyffredin. Yn y gaeaf fe ymgesglid ynghyd ar y Sulian i hel chwedlau a chwarae cardiau, ac ar dymorau eraill i chwarenon ar wahanol fath. Fe geid eraill yn ymroi i herwhela. Y prif fannau y cyrchid iddynt oedd Hafod y rhug isaf a Nant ael gwyn.

Yr oedd yn gwasanaethu yn y Cent yn 1816, John Williams, ar ol hynny o dyrpeg Bodrual; Robert Jones, wedi hynny y Groeslon, Dinorwig; Owen Jones, wedi hynny Tyddyn llwydyn, Morfa Saint; Hugh Jones, a fu'n trigiannu yn y dref wedi hynny; a dechreuodd y rhai hyn ymgasglu at ei gilydd ar feini wrth Bontrug er mwyn darllen y Beibl. Adroddiad arall a rydd 1814 fel yr amser. Pa ddelw bynnag, cyn bod 1816 allan. yr oeddis yn ymgynnull yn y Felin Snisin, a adnabyddid wedi hynny fel y Felin Wen, trigle John Williams, y blaenaf o'r gwŷr a enwyd. Yn y man fe ymgynhullid yn y Felin flawd; yna aethpwyd i'r Odyn; ac yna i'r Cefn neu Gefn y craswr. Ffermdy ydoedd yr olaf sy'n furddyn ers talm bellach, a'r tir wedi ei gysylltu â'r Cefn. Bu'r ysgol yn y lleoedd hyn am oddeutu pum mlynedd. Dau o'r pedwar gwŷr hynny oedd yn proffesu ar y pryd, eithr fe lwyddai'r ysgol yn eu dwylo. Nid yw Cefn y craswr yn sefyll bellach, ond ei safle gynt oedd ar yr un maes ag eiddo'r capel presennol.

Yn 1817 yr oeddid yn symud drachefn i ysgubor Lon glai. Ymhen rhyw flwyddyn o amser fe symudwyd o'r ysgubor i'r tŷ, lle'r arosodd yn ol hynny ysbaid 21 mlynedd. Nodir rhif

  1. Ysgrif o'r lle. Capel Nazareth, E. W. Evans, 1892. Ymddiddan â Mr. R. Roberts, New Street. Atgofion y Parch. W. Jones-Williams, Llanfairpwllgwyngyll.