Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ysgol pan yn cychwyn yn Lon glai fel rhwng 20 a 30. Ond ni ddeuai'r nifer yma'n nghyd gyda'i gilydd. Dyma'r rhifedi o lyfr cofnodion y Cyfarfod Ysgol am Hydref 17, 1819, hyd Ionawr 28, 1821. Rhoir rhif aelodau'r ysgol am y chwech wythnos, yna rhif y penodau fel yma: 64, 112; 58, 118; 59, 131; 69, 132 (a 65 adnod); 49, 162; 62, 103; 58, 50; 57, 42; 49, 87 (a 20 adnod); 59, 54; 58, 134; 58, 40. Yr arolygydd cyntaf y clywodd Mr. E. W. Evans am dano oedd Griffith Evans, Dolgynfydd a'i gynorthwy gyda holi'r ysgol oedd Humphrey Llwyd Prysgol. Deuai'r ddau hyn yma o ysgol y Wern, Caeathro. Methu gan Mr. Evans gael enwau'r ddau y dywedid y deuent i gynorthwyo o'r Ceunant. John Williams. y Felin snisin oedd yr arolygwr nesaf. Gwr cadarn yn yr ysgrythyrau a chrefyddol ei ysbryd. Hugh Williams Rhydygalan oedd yr arholydd. Gwr hynod ei ddywediadau. Yn ei weddi ar ddydd Diolchgarwch fe ddiolchai am fendithion tymhorol. "Ond gwared ni rhag gwneud ein nyth ynddynt: rho nerth i ni wneud ein nyth yng nghangau Pren y Bywyd, lle ni ddaw un barcut of uffern i'w chwalu am dragwyddoldeb." Ei wasanaeth ef ful addysgu'r naill do ar ol y llall o fechgyn am 26 blynedd, a phrofodd ei hun yn dra defnyddiol yn ei gylch. Athro arall oedd Rees Hughes y Fron gyda'i ddosbarth o fechgyn yn y Testament; a John Jones Isallt wedyn gyda'i ddosbarth meibion yn y Beibl. Dau athro oedd y rhai'n yn berchen gwybodaeth eang yn yr ysgrythyr, a bu'r naill a'r llall o wasanaeth dirfawr, er nad oeddynt yn proffesu crefydd. Thomas Evans, tenant Lôn glai, oedd iddo ddosbarth gyda'r merched yn y Beibl, a pharhaodd yn ffyddlon iddo am y deng mlynedd y bu byw ar ol i'r ysgol ddod i'w dy. Eglwyswr selog oedd William, brawd Thomas Evans; ond ar farw Thomas fe gymerodd ofal ei ddosbarth ef. Daeth hefyd yn arweinydd y gân hyd ddyfodiad William Jones Cae rhydau yma o Gaeathro. Pan glafychodd Thomas Evans bu'r ysgol am ystod chwech wythnos yng Nghae'rbleddyn; yna dychwelodd yn ol i Lôn glai. Mary, gwraig Thomas Evans, fu'r unig athrawes yn Lôn Glai yn ystod yr 21 mlynedd y bu'r ysgol yn ei thŷ. Dysgodd ferched yr ardal. i ddarllen. Ni byddai ball ar glodforedd Jane Williams y tyrpeg a Martha Jones Isallt iddi, gan eu bod hwy ill dwy wedi myned heibio'r 35 cyn dysgu'r wyddor; ond ni orffwysai teyrnged eu clod ar hynny, canys fe broffesent fod wedi cael golwg