Byddai ganddo ef ryw air yn ei bregeth fel bwrdwn, a'r bwrdwn y tro yma ydoedd, A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Tebyg fod rhyw gyfeiriad ganddo at anystyriaeth y lle gynt, anystyriaeth fe ddichon yn parhau i fesur hyd y pryd hwnnw. Edward Owen Cefn y craswr oedd yr arolygwr cyntaf. Un ar y blaen mewn gallu a ffyddlondeb gyda'r ysgol oedd Thomas Evans y Sarn.
I Foriah yr ae y nifer mwyaf ar nos Sul, ac yno hefyd yr aent i'r seiat ganol wythnos. Tua 1856 fe ddechreuwyd cael y pregethwr o Foriah ar brynhawn Sul. Fe ddeuai yma yng nghwmni y blaenor Dafydd Rowland. Ac fe ddywedir y byddai esgeuluswyr yn gyffredin yn ffoi o'i ŵydd ef a'r pregethwr ar y ffordd. Fe fanteisiodd Nazareth ar y cysylltiad â Moriah, a bu lliaws o bregethwyr yma o bryd i bryd na fuasid yn disgwyl fyth eu gweled ond am y cysylltiad hwnnw. Bu Dafydd Rowland yn dod yma ar ganol yr wythnos, hefyd, i gynorthwyo gyda chynnal y gwaith ymlaen. Fe barhaodd ei enw yn hir yn barchedig yn y lle hwn. Y mae gan Mr. Robert Roberts New Street rai atgofion. am ddiwygiad 1859 yma. Dywed ef fod yr ardal yn llawn tân y pryd hwnnw. Darfu i liaws ymuno â chrefydd ar y pryd, ond yn colli gafael ar ol hynny. Dywed fod troedigaeth Rowland. Jones yn un hynod. Dyn go feddw yr arferai ef fod, anheilwng ei iaith, ac heb ddilyn moddion gras. Fe'i cymhellwyd i fyned. i wrando ar ryw wr poblogaidd. Gwaeth ei dymer ydoedd ar ol yr oedfa, ond distawach ei ddull yr un pryd. Myned i ffair y gaeaf yn y dref. Cael ei hun ar drothwy yr hen Grown isaf, -adnabyddus fel y cyfryw y pryd hwnnw, nid y Crown isaf di- weddarach. Agor y drws-y stafell yn llawn o ferched isel y dref. Cau y drws yn y fan mewn gradd o ddychryn, a myned adref ar ei union, a phan ddaeth noson seiat myned yno. Tebyg fod seiadau yn Nazareth ynglyn â chyfarfodydd y diwygiad. Nis gallai Rowland Jones ddarllen fawr o drefn y pryd hwnnw, ac ni ragorodd yn hynny wedi hynny; ac ni feddai ddawn siarad chwaith. Er hynny fe wnaeth fwy o waith, ebe Mr. Roberts, na neb a fu yn y lle. Ond er heb fod yn siaradwr, yr oedd yn weddiwr; ac yr oedd ynddo ffyddlondeb heb fyth ball arno. Yn niwedd Tachwedd neu yn nechre Rhagfyr, 1864, y ffurfiwyd eglwys yma. Edward Roberts y Ceunant a roes y bregeth gyntaf ar ol sefydlu'r eglwys, sef ar y Sul, Rhagfyr 4,