Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1864. Y blaenoriaid cyntaf,—Rowland Jones Tyddyn hen, Tŷ gwyn wedi hynny, a Richard Evans Cae garw. Ymadawodd yr olaf â'r gymdogaeth am ysbaid i ddychwelyd yn ol yn 1891. Y rhai fu yma yn ffurfio'r eglwys ac yn galw swyddogion, Y Parchn. Dafydd Morris a William Herbert ynghyda Dafydd. Rowland. Yr aelodau yn y seiat gyntaf: Richard Evans Caegarw (Pengelli wedi hynny), William Evans eto, Rowland Jones, Catherine Jones ei wraig, John Peters Glanrafon, Mary Evans Lôn glai, Ellen Edwards tŷ capel, Ellen Jones Tyddyn pisla, Margaret Griffiths Erw pwll y glo, Jane Williams Pengelli, Catherine Jones Radan.

Trefnwyd Nazareth yn daith â Chaeathro, a phery y cysylltiad o hyd.

Yn niwedd 1866 daeth William Jones Caerhydau yma o Gaeathro. Daeth yma yn bennaf er mwyn bod o gynorthwy i'r canu.

Yn 1870 fe sefydlwyd y Gobeithlu a'r Cyfarfod Llenyddol. Yn 1875 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: William Jones Caerhydau a John Owen Penycock. Yn fuan wedyn daeth John Humphreys a John Owen yma o Fetws Garmon. Yr oeddynt ill dau yn swyddogion yno a galwyd hwy i'r swydd yma. Yr un flwyddyn y sefydlwyd cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc.

Yn nechre 1880 y dechreuodd W. Jones-Williams Cae Darby bregethu. Symudodd oddiyma i fugeilio eglwys Peniel, Beddgelert, yn 1889.

Yn nechre 1881 tynnwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd un mwy yn ei le. Yn ystod yr adeg yma cynhaliwyd y gwasanaeth yn Ysgoldy'r Bwrdd. Traul yr adeiladau, £550. Cynhwysa le i 212. Agorwyd y capel ym Medi. Gwasanaethwyd ar yr agoriad gan Francis Jones, Owen Edwards, B.A. (Caernarvon), Robert Thomas (Llanllyfni), Evan Jones Moriah, Griffith Roberts Carneddi, Evan Roberts Engedi. Talwyd y ddyled yn gyflawn erbyn 1886, gyda chynorthwy arbennig (Miss) Jones yr Erw. Bu ei chynorthwy hi'n dra gwerthfawr yma ar hyd y blynyddoedd, ac yn ei hewyllys fe adawodd £200 i'r lle. Er na fu hi'n aelod eglwysig, fe goleddid syniad uchel ymherthynas â hi gan bawb.

Yn 1886 fe deimlid rhyw ddylanwad neilltuol am ysbaid amser yng nghyfarfod gweddi'r bobl ieuainc. Ffrwyth y cyfarfodydd hyn oedd i Michael R. Owen a John W. Jones ddechre