pregethu. Dechreuodd y blaenaf yn 1886; fe dderbynid yr olaf yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1889, ac yn 1895 symudodd i fugeilio eglwys Llanfairtalhaearn.
Yn Hydref, 1887, bu farw John Humphreys, yn flaenor rhwng yma a Betws Garmon ers dros 28 mlynedd. Dywed Mr. Evans am dano ei fod yn wr caredig, a chymhwysa ato eiriau un bardd am y llall, sef ei fod yn llawn digrifwch a'i lond o grefydd." Dywed ei fod yn ieuengaidd a thirf o ran ei ysbryd hyd y diwedd; a'i fod yn ganwr, yn ol yr hen ddull, lled dda; ac yn wasanaethgar gyda hynny; yn athro llwyddiannus; yn hynaws gyda'i gyfeillion; yn gwir ofalu am yr achos. Ar ol marw John Humphreys dewiswyd yn flaenor William W. Jones Caerhydau. Yn 1891 derbyniwyd i'r Cyfarfod Misol fel blaenoriaid: Robert Edwards, Richard Evans. Ionawr 31, 1896, bu farw Rowland Jones Tŷ gwyn, yn flaenor yma er 1864. Yn 1899 derbyniwyd yn flaenoriaid yn y Cyfarfod Misol: John Jones, Robert Jones, H. J. Humphreys. Yn 1899 rhowd galwad i Mr. W. O. Jones fel gweinidog, yr un pryd ag yng Nghaeathro.
Fe gyfleir yma atgofion Mr. W. Jones-Williams: "Yr oeddwn yn llafn tua deg neu ddeuddeg oed pan ddechreuais fyned i gapel Nazareth oddeutu'r flwyddyn 1870. Cof gennyf am fy nhad cyn hynny yn myned o Ben y gelli wen i glywed ambell un o'r cewri a ddeuai i Foriah, gan gerdded o ddwy i dair milltir o ffordd. Er nad oedd ef yn grefyddwr, nid oedd neb mwy awyddus i glywed pregethwr da nac yn cofio pregeth yn well. Yr oedd hynny o tua 1866 ymlaen. Pan symudasom i Gae Darby tua 1869, bum yn myned am ysbaid drachefn i Foriah; ond yn lled fuan mi ddechreuais fyned gyda phlant ac eraill o gymdogaeth Rhosbodrual i Nazareth. Aethum yno i'r ysgol i gychwyn, ac wedi hynny yn gyfangwbl, er i'm rhieni a rhai eraill o'r teulu ddal i fyned i Foriah. Fy nghof cyntaf am Nazareth yw myned yno i'r ysgol gyda phlant Bodrual, y fferm nesaf, ac yn deulu lluosog. Cof gennyf mai i ddosbarth Owen Owens y Felin wen yr aethum, gyda'm cyfaill a'm cyd-chwareuydd, Griffith Elwyn Jones, a adnabyddid ar ol hynny fel Elwyn, gwr ieuanc talentog, adnabyddus iawn yng Nghaernarvon, ac a ddaearwyd yn rhy gynnar. Ysgol fechan oedd yno, tua 50 neu 60 ar gyfartaledd, mi allwn feddwl; ond ysgol fyw a gweithgar. Cof gennyf am Rowland Jones