Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Rhydau yn dysgu A B i'r plant bach; Owen Owens yn eu dysgu i sillebu a darllen; Richard Jones y Rhydau yn dysgu darllen y Testament; Richard Evans Caegarw, Harry Griffith Brynrhug, John Owen Penycock, William Jones Caerhydau yn ochr y merched. Nid oes yn aros yn awr ohonynt ond yr olaf a nodais. Mi ddechreuais i bregethu yn yr hen gapel yn 1880. Hen adeilad ysgwar, y pulpud rhwng y ddau ddrws, sêt fawr gul iawn, a chodiad ar y llawr, fel yn yr hen gapelau; yn cael ei oleuo à chanwyllau. Y blaenoriaid cyntaf oedd Rowland Jones a Richard Evans. Y dechreuwr canu oedd. William Jones Caerhydau, swydd a gyflawnodd yn ffyddlon am flynyddoedd lawer. Yn y cyfarfod gweddi bob yn ail nos Sul byddai'r un rhai hyn yn cymeryd rhan yn o fynych. Mae gennyf atgof byw am amryw ohonynt; a rhai hynod mewn gweddi oeddynt, bob un yn ei drefn ei hun. Hen frawd hynod ar fwy nag un cyfrif oedd Rowland Jones: yr oedd iddo hanes hynod. Brodor o Fón ydoedd, o ardal Gwalchmai mi gredaf. Credaf mai at y diweddar Mr. John Rea, a gadwai ar y pryd westy'r Sportsman, ac amryw ffermydd yng nghymdogaeth y dref, y daeth i wasanaethu. Bu Mr. Rea yn dal tollborth y Bont Saint am beth amser, a bu Rowland Jones a'i briod yn ei gadw iddo; yr hyn a ddengys, er nad oedd efe y pryd hynny yn grefyddwr, yr ymddiriedaeth oedd gan ei feistr ynddo. Ni fedrai y pryd hwnnw prin lythyren ar lyfr, a lled ofer ei fuchedd ydoedd. Cedwid y cyfrifon gan ei briod. Cof gennyf glywed fy nhad, a oedd yn feili ar y pryd i Mr. Rea, yn adrodd hanes troedigaeth Rowland Jones. Ar un noson, ac efe ynghydag eraill yn dychwelyd o dafarn yn y dref, ceisiwyd ei lithio gan ddynes ddigymeriad adnabyddus yn y dref, ac yntau yn wr priod ac yn dad i blant. Penderfynodd y pryd hwnnw na welid mohono yn myned dros drothwy tafarn ond hynny. [Gall yr hanes hwn yn hawdd fod yn wir cystal a'r un arall a roddwyd o'r blaen am yr un gwr.] Felly fu. A buan iawn yr ymunodd â'r eglwys ym Moriah. Gyda chynorthwy ei briod fe ymdrechodd yn awr ddysgu darllen. Mi glywais fy mam yn son fel y byddai efe, ar ol dychwelyd oddiwrth ei waith ar hwyrddydd haf, â'i lyfr bach yn ei law yn dysgu sillebu ar step y drws, a'i wraig yn ei gynorthwyo ar yr un pryd ag yr ae ymlaen gyda gwaith y tŷ. Symudodd yn fuan i fyw i'r Rhydau, lle unig iawn ar lan afon Cadnant, rhwng tir Pen-