gelli Lloyd a thir Tŷ slaters; a lle i gadw buwch neu ddwy. Tra yma aeth i weithio i'r chwarel; a magodd yma lond tŷ o blant. Bu un o'r plant, Richard Jones, yn aelod gwerthfawr am flynyddoedd yn Nazareth ac yn athro yn yr ysgol. Yr oedd Rowland Jones yn weddiwr anghyffredin iawn, yn nodedig o afaelgar ar adegau. Nid oedd yn ysgrythyrwr cadarn, ond yr oedd ganddo ymadroddion o'r ysgrythyr yn ei weddïau, megys 'cilfach a glan iddi,' 'caned preswylwyr y graig,' 'fy nhrugaredd ni chilia oddiwrthyt a chyfamod fy hedd ni syfl,' 'ni ryglyddais y leiaf o'th drugareddau,' ac eraill. Ganddo ef y clywais i hwy yn fachgen cyn i mi wybod am yr adnodau lle ceir hwy. A chofio ei anfanteision, yr oedd yn rhagorol am gadw seiat: byddai'n bur sicr o gael gafael ym mhrif fater pregeth y Sul blaenorol a gallai wneud defnydd da ohono. Am Mr. Richard Evans, brodor o Fon ydoedd yntau, wedi ei ddewis yn flaenor yn wr lled ieuanc. Ganger ydoedd ar y plate-layers rhwng Caernarvon a Griffith's Crossing. Dyn dymunol yd- oedd, lled ddeallgar yn yr ysgrythyrau, o synnwyr cyffredin cryf a barn dda. Symudodd ef i fyw i Gae'r mur ar ffordd Bethel, ac ymaelododd am rai blynyddoedd yn Siloh; symudodd drachefn i Bengelli 'Rasmws, gan ymaelodi yn Nazareth dra chefn. [Edrycher Siloh.] Ystyrrid Mr. William Jones y Rhydau yn arweinydd diogel gyda'r canu; ac y mae efe'n englynwr ac yn llenor Cymraeg lled addfed. Bu'n gaffaeliad mawr i'r achos. Iddo ef gynt, y rhan fynychaf, yr ymddiriedid dechreu'r moddion. Gwnae hynny'n dda a synwyrlawn. Yr oedd yn ddarllenwr deallus a llithrig; ac yn athro goleuedig yn yr ysgol. Y mae'n haeddu parch oherwydd ei waith. Caffed hwyrddydd tawel! Daeth y Mri. Humphreys ac Owen o Fetws Garmon i gadw'r gwaith cerryg sgrifennu. Buont yn adgyfnerthiad mawr i'r achos. Dyma'r blaenoriaid oedd yn Nazareth yn fy amser i, ac y mae gennyf lond fy nghalon o barch i'w coffadwriaeth.
"Yr oedd gennym nifer dda o hen frodyr, heb fod mor ryw amlwg, ond yn gymeriadau gwreiddiol a nodedig. Nid y lleiaf oedd Dafydd Jones Glanrafon. Yr oedd ef yn amaethwr parchus ac yn meddu ar safle fydol glyd. Nid oedd yn aelod eglwysig, ond eto â llaw go amlwg ganddo, mi gredaf, yn adeiladu'r capel cyntaf; yn aelod selog o'r ysgol yng nghwrr y sêt fawr; ac yn y gadair dan y pulpud yn gwrando'r bregeth;