Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac i ni'r plant, Dafydd Jones Glanrafon oedd archesgob Lôn glai. Ni fynnem gellwair yn ei bresenoldeb, a bu'n gryn gefn, fel y deallaf, i'r achos yn ei gychwyn. Y mae gennyf gof byw am Sion Ifan yr iard. Yn iard Rhosbodrual y trigai ef a Jinni Ifans ei wraig. Brodor o Fon oedd Sion Ifan yntau hefyd. Cyrhaeddodd rai o'i feibion safleoedd pwysig. Capten David Evans Nefyn sydd mewn safle forwrol bwysig; Mr. Hugh Evans yn flaenor gwerthfawr yn Pendleton; Mr. Evan Evans Penymaes yn flaenor rhagorol yn Llwyndyrus. Ym Moriah yr oedd Sion Ifan yn aelod, ond y rhoddai lawer o'i amser yn Nazareth. Cododd do ar ol to o blant i ddysgu darllen yma. Byddai ym mhob cyfarfod gweddi yn Nazareth. Sych ydoedd fel gweddiwr, ond cyflawn ac ysgrythyrol. Soniai am y cwningod ac am gywion yr estrys ac am Gog a Magog ac am lawer o bethau nas gwyddwn i eu bod yn y Beibl. Yr oedd ganddo stôr o benillion yn ei gof. Anaml y lediai yr un pennill fwy nag unwaith. Efe a glywais i gyntaf erioed yn ledio'r penillion, Mae'r Efengyl ar farch gwyn, Plant caethion Babilon, Teg wawriodd arnom ddydd, Henffych i'r bore hyfryd, a lliaws mawr eraill. Byddai'r hydau anghyffredin yn brawf llym ar William Jones, ond ni welais mono ef erioed na ddeuai o hyd i'r dôn briodol. Harry Griffith Brynrhug a eisteddai bob amser yng nghornel y sêt fawr er nad oedd yn flaenor. Yswiliem ni'r plant rhag ei ofn, am y golygem ef yn wr mor dduwiol. Nid oes cof gennyf i mi ei weled erioed mewn gweddi na byddai ei ddagrau yn rhedeg yn ffosydd ar hyd ei rudd'au; ac y mae'r dagrau hynny i mi yn gysegredig y funud hon. Taerineb oedd nodwedd ei weddïau ef. Ail a thrydydd adroddai adnodau mawrion y Testament Newydd: Bywyd wedi ei guddio, Dim damnedigaeth, Gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn glanhau, ac eraill. Mynych adroddai hwy nes cynhesu pawb o'i amgylch. Yn syniad pawb ohonom, sant oedd Harry Griffith. Gwr arall cwbl wahanol oedd Sion Peter Glanrafon. Gwasanaethu yr oedd ef yn Glanrafon, Llanrug, cartref y Parch. Michael R. Owen, Brymbo erbyn hyn. Hen lanc o ardal Dolgelley neu Drawsfynydd a'i leferydd yn ei gyhuddo, gyda'r cia yn amlwg ganddo. Nid oes cof gennyf am dano yn darllen yn gyhoeddus ond o'r Salmau; a Salmau cân Edmwnd Prys a roddai allan fynychaf i'w canu, a medrai eu hadrodd yn ystyrlawn. Y gwr ni rodia, Dywed i mi pa ddyn a drig, Yr