Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arglwydd yw fy mugail clau, ac eraill y dysgais eu hadrodd wrth wrando arno ef yn eu ledio. Cymeriad nodedig oedd Sion William y Sarn, chwarelwr wrth ei alwedigaeth, ffyddlon yn yr ysgol, yn dipyn o wleidyddwr, diwinydd a cherddor. Ei fab hynaf ef, William, lafuriodd fwyaf gyda'r plant o neb yn fy amser i. Dysgai i ni gerddoriaeth yn bennaf. Llyfr Eleazar Roberts, Hymnau a Thonau i blant—fyddai gennym, ac mae'n debyg nad oes ei hafal. Gwnaeth lawer yn y cyfeiriad hwn a dichon na chafodd y gefnogaeth a haeddai. Ymadawodd â'r ardal tra'r oeddem yn blant, ond erys ei enw'n annwyl gennym ni a fu dan ei addysg. Ellen Edwards y tŷ capel, un o ferched Lôn glai, oedd wraig ragorol arall, gall, tra chrefyddol, uchel ei pharch gan bawb. Thomas Lewis y tŷ capel, gwresog yn ei ysbryd, porthwr aiddgar yn y gwasanaeth, parod i bob gwaith. Efe oedd y cyntaf a glywais i yn gorfoleddu â'i ddwylo i fyny, ac yn rhwystr i'r pregethwr druan. Aelod yn Siloh ydoedd yn niwedd ei oes, a mab iddo ydyw Mr. William Lewis, sydd yn swyddog gwerthfawr yn Siloh. Mae gennyf gof am William Evans Lôn glai. Heb fod yn aelod bu'n wasanaethgar gyda'r canu yn yr ysgol yn Lôn glai ac am ysbaid yn y capel. Eglwyswr oedd am ran o'r Sul. Heb fod yn aelod, yr oedd William Owen y ffactri yn athro diwyd yn yr ysgol ac yn gefn lled dda i'r achos. Y fwyaf nodedig o bawb ynglyn â'r achos oedd Miss Jones yr Erw. Yn gyfoethog o bethau'r byd bu'n gefn mawr i'r achos, er heb fod, hithau chwaith, yn aelod eglwysig. Hi groesawai weision yr Arglwydd yn llawen i'w thy; yr oedd ei dyddordeb ym mhethau crefydd yn fawr; ac ni amheuodd neb ei chrefydd a'i hadnabu. Pan oeddwn yn dechre pregethu, hi deimlai ddyddordeb mawr ynof. Cawn wahoddiadau mynych ati, ac ni chawn ddychwelyd yn waglaw. Y mae ei choffadwriaeth yn fendigedig.

"Dylaswn fod wedi cyfeirio at wasanaeth y Parch. John Williams Siloh, pan ydoedd yng Nghaeathro yn cadw ysgol. Deuai yn o gyson atom i gadw seiat. Yr oedd yn rhagorol am gadw seiat. Ni chlywais ond un gwell, sef David Morris: yr oedd ef yn ardderchog; ond anfynych y caem ni ef." Peth hynod yn hanes Nazareth ydyw'r lliaws a fu yn wasanaethgar i'r achos yma heb fod yn aelodau eglwysig. Fe arferai Thomas Roberts Bethesda ddweyd yn gynnil, yn y ffordd oedd ganddo ef o awgrymu peth, nad allem ni ddim dweyd yn