Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/266

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

briodol am y dosbarth hwn o bobl nad oeddynt hwy ddim yn broffeswyr crefydd. Fe awgrymai fod eu hymlyniad wrth achos crefydd a'u gwasanaethgarwch ynddo'i hun yn broffes. Gresyn yr un pryd i'r cyflawn broffes beidio â bod yn eu hanes. Dyma sylw ymwelwyr 1885 ar yr ysgol: "Y mae yma ffyddlondeb mawr yn wyneb llawer iawn o anfanteision. Gellid gwella'r gyfundrefn o weinyddu addysg i'r plant, ac, o bosibl, drefnu lle iddynt mewn congl o'r capel, i ddysgu'r wyddor gyda'i gilydd. Gyda golwg ar yr arholiadau y gŵyn yma ydyw fod y naill arholiad yn dyfod ar draws y llall. John Davies, Thomas Jones."

Rhif yr eglwys yn 1900, 62.

A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Tyred a gwel.