Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CASTLE SQUARE.[1]

FE hysbysir yn y Goleuad am Ragfyr 17, 1870, y daethpwyd i'r penderfyniad ychydig amser cyn hynny i adeiladu capel Saesneg yn y dref, a dywedir fod £300 eisoes wedi eu haddaw tuag at yr amcan. Bu oediad gyda'r gwaith, pa wedd bynnag. Y Sul, Tachwedd 9, 1873, y cynhaliwyd y gwasanaeth Saesneg cyntaf yn ysgoldy Turf Square gan y Parch. Owen Edwards, B.A. Adeiladwyd yr ysgoldy gan Moriah, a throsglwyddwyd yr hawl iddi i'r eglwys Seisnig. Traul yr adeilad, £800; talwyd £550 am y tir. Pan adeiladwyd y capel yn Castle Square, prynnwyd yr ysgoldy yn ol gan Foriah am £800.

Bu W. P. Williams a Lewis Lewis, blaenoriaid o Foriah, yn cynorthwyo gyda'r gwaith am rai misoedd ar ol ei sefydlu. Awst 2, 1874, y cynhaliwyd yr ysgol gyntaf yma. Daeth 31 ynghyd. Awst 28, 1874, y dewiswyd y blaenoriaid cyntaf, sef, Hugh Pugh Llysmeirion; Walter Hughes, goruchwyliwr banc y maes; James Evans yr Herald. Ymadawodd Walter Hughes ym mhen ysbaid yn ol i Foriah, ond nid cyn bod o wir wasanaeth yma. Yr ydoedd ef yn wr o allu a chraffter naturiol pell uwchlaw y cyffredin, ac o gyrhaeddiadau amrywiol, heblaw ei fod wrth ei alwedigaeth wedi ei ddisgyblu mewn cyfeiriadau neilltuol; a manteisiodd yr achos ar ei adnoddau helaeth. Ar ddiwedd 1874 yr oedd rhif yr eglwys yn 48; y plant, 20; y gynulleidfa, 100; yr ysgol, 80; ac yr oedd yr holl gasgliadau yn £206 11S. 3c.

Y bugail cyntaf oedd y Parch. Hugh Josua Hughes o Lacharn sir Gaerfyrddin. Penderfynwyd ei alw, Ebrill 28. 1875. Ymadawodd Mai, 1877. Yr ydoedd ef yn nai i'r Esgob Josua Hughes Llanelwy. Nid ydoedd o gwbl yn anhebyg i'w ewythr o ran ei berson a'i ddawn a'i ysbryd. Dyn yn hytrach yn fychan, yn llai na'r esgob; o brydwedd tywyll fel yntau; a chyda rhyw debygrwydd go amlwg ym mynegiant pryderus y wyneb. Yr oedd dawn siarad y ddau nid yn anhebyg, ond bod yr esgob yn hytrach yn gryfach ac yn ddifrifolach. Yr oedd

arddull Saesneg y nai yn rhwydd a llawn, fymryn bach. yn flodeuog a mursenaidd; ac yn y nodweddion olaf yma yn ymadael

  1. Ysgrif James Evans yr Herald. Nodiadau y Parch. David Hughes, M.A.