Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiwrth gynllun ei ewythr. Nid oedd gyn gryfed cymeriad a'i ewythr yn hollol, ond eto yn ddyn dymunol a da a diniwed. Ysgrifennodd gofiant Saesneg i Howel Harris ar gais Cymdeithasfa'r De.

Rhagfyr 2, 1877, dewiswyd yn flaenoriaid: T. W. Fergus, y post, T. O. Jones, W. B. Jeffrey, David Thomas Bryngwyn, John Thomas y county surveyor. Ymadawodd W. B. Jeffrey i'r America. Yr ydoedd ef yn wr siriol, boneddig, goleu ei feddwl. Ymddiswyddodd John Thomas yn 1883. Fel y gallesid disgwyl oddiwrth y swydd a ddaliai, yr ydoedd yn wr o beth diwylliant mewn amrywiol gyfeiriadau, a bu o wasanaeth gyda'r achos. Albanwr ydoedd T. W. Fergus, ac yr ydoedd yn wr serchog, tyner, gwybodus, a bu am ysbaid o ddefnydd yn y lle.

Rhagfyr 16, 1879, daeth y Parch. Owen Edwards, B.A., yma o eglwys Seisnig Llanelli fel bugail.

Yr oeddid wedi prynnu'r tir y saif y capel presennol arno rai blynyddoedd cyn adeiladu. Rhowd £1,400 am dano. Agorwyd capel Castle Square, Gorffennaf, 1883. Traul yr adeilad,. gan gynnwys manion, £2,809 2s. 2g. Cyfarfod gweddi y teimlid presenoldeb y meistr ynddo ydoedd y cyfarfod gweddi olaf yn Turf Square. Cyfarfod gweddi ar fore Sul ydoedd y cyfarfod cyntaf yn Castle Square. Rhowd y bregeth gyntaf yma, megys yn yr hen adeilad gan y gweinidog erbyn hyn, sef Owen Edwards, oddiar I Petr ii. 4, 5. Y pnawn a'r hwyr pregethodd y Prifathro T. C. Edwards oddiar Hebreaid iv. 9 a I Cor. xv. 57. Pregethodd y Prifathro nos Lun ar I Cor. xv. II, ac yn Gymraeg ym Moriah oddiar I Cor. vii. 29-31. Nos Wener pregethwyd yn Castle Square gan D. Charles Davies. Cynhwysa'r capel le i 390. Y mae'r oriel gyf- erbyn a'r pulpud yn rhydd i bawb, a llwyddwyd o bryd i bryd i gael esgeuluswyr i ddod yno. Y mae'r capel ei hun yn un hardd a da, ac yn addurn i'r maes lle saif. Ysgrifennydd yr adeiladu ydoedd M. T. Morris. (Goleuad, 1883, Gorffennaf 21, t. 12).

Dechreuodd J. Glyn Davies bregethu yma, a derbyniwyd ef i'r Cyfarfod Misol yn 1885. Ymadawodd yn weinidog i'r capel Saesneg, Aberystwyth, yn 1887.

Mai 5, 1886, ymadawodd y gweinidog, Owen Edwards, gan fyned i Awstralia er mwyn ei iechyd. Ymgymerodd yno â