Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofal eglwys bwysig ym Melbourne. Bu farw yno Mai 23, 1893. Yr ydoedd yn hanu o hen gyff Methodistiadd da yn Llanuwchllyn, ac yn gefnder i Mr. O. M. Edwards. Yr oedd cryn debygrwydd, hefyd, rhwng y ddau o ran ymddanghosiad, o ran mynegiant y wynepryd, ac o ran y galluoedd meddyliol a'r nodweddion ysbrydol. Nid oedd efe mor dal a Mr. O. M. Edwards; ac yn ei ddull fel siaradwr yr oedd yn fwy cyffrous. Yn y prydwedd a'r llygaid duon, gloewon yr oeddynt yn dra thebyg; a'r un modd yn eu dull nawsaidd, eu cyflymdra meddyliol, eu hoenusrwydd mewn corff a meddwl, a'u dyhead ysbrydol. Ni ymroes y gweinidog i lenora; ond yr hyn ydyw'r llenor o Lanuwchllyn o ran ei arddull, hynny ydoedd y gweinidog yn ei bregethau o ran ei ddull: pelydrai ryw athrylith nwyfus ac ysbrydolrwydd ysgafn yn null y naill cystal ag yn arddull y llall. Ymroes Owen Edwards i lafur fel gweinidog. Yn ei amser ef yr adeiladwyd y capel presennol, a gweithiodd yn ddifrif gyda hynny. Aeth yn ddwfn i serchiadau'r eglwys, a thrwy ei ddull serchog, ei gymeriad uchel, a'i ddawn fel pregethwr fe ddylanwadodd er daioni ar liaws o bobl ei ofal ymhlith yr ieuainc ac ymhlith rhai hyn. Yr ydoedd yn Llundain. ym mis Chwefror, 1883. Medrai fod yn rhydd a brawdol, pan gyfarfyddent â'i gilydd, gyda gweinidog cryn lawer yn iau nag ef, ac heb gymeryd arno y gronyn lleiaf o uchafiaeth. Bu'n gwrando mewn odfeuon canol dydd ar Joseph Parker a Baldwin Brown. Gogleisid ef gryn dipyn gan ergydion doniolwych y blaenaf. Mawr y blas a gaffai wrth adrodd yr ergyd honno, —"There was a time when I was an advanced thinker!" Ond er y blas a gawsai ar y blaenaf fe edmygai'n fwy goethder hunan-ataliol yr olaf; a rhoe fynegiad i'r farn fod y coethder uchelddisgybledig hwnnw wedi'r cwbl yn myned ymhellach o ran gwir ddylanwad na'r campau ymadrodd doniol-ddigrif yn y llall.

Yn nechre 1887 daeth y Parch. J. Varteg Jones yma fel bugail. Yn Everton Brow, Nerpwl, yr ydoedd ychydig cyn hynny. Yn fuan wedi i'r gweinidog ddod yma, a thrwy ei ymdrech ef yn bennaf, dygwyd organ gwerth £272 i'r gwasanaeth, sef y gyntaf o'i rhywogaeth mewn capel Methodist yn y dref, os nad yng Ngogledd Cymru. O ddiffyg iechyd bu raid iddo yntau ymadael am ei gartref genedigol, sef Varteg, sir Fynwy, lle bu farw, Chwefror 16, 1888, yn y 47 flwydd o'i oedran. Ceir y sylwadau yma arno yng nghofnodion y Cyfarfod