Misol am Mawrth 19, 1888: "Yr oedd yn bregethwr grymus, ac yn weinidog cymwys y Testament Newydd. Yr oedd y gwaith a wnaed ganddo yng Nghaernarvon gydag eglwys Castle Square yn waith y mae, ac y bydd eto yn ddiau ffrwyth iddo. Yr oedd ei dduwioldeb yn ddwfn ac yn amlwg. Ymneilltuai bob dydd i ddarllen, myfyrio a gweddio—i fyned, fel y dywedai ef ei hunan, drwy y process o farw." Meddai ar ddawn siarad anarferol a geiriadaeth eang, er fod yr arddull yn orreithegol. (Drysorfa, 1888, t. 149.)
Yn 1887 dewiswyd yn flaenoriaid: Cadwaladr Williams, William Skenfield, John Williams a Niel Macmilan. Symudodd W. Skenfield i Gaerlleon a N. Macmilan i Glasgow. Mai 16, 1887, bu farw Hugh Pugh, yn flaenor yma ers 13 blynedd. Daeth i'r dref o Bwllheli, a bu'n aelod ym Moriah am o 6 i 7 mlynedd. Gan ei fod yn wr cyfoethog, fe'i galluogwyd ef i fod o gynorthwy ariannol i'r eglwys. Ei nôd mwyaf arbennig ydoedd ei ffyddlondeb gyda'r ysgolion cenhadol yn y dref, sef Glanymor ac yn enwedig Mark Lane. Bu'n arolygwr yn yr olaf am lawer o flynyddoedd. Fe ddanghosai gydymdeimlad neilltuol â'r ysgolion eraill o'r un rhyw yn y dref. Yr oedd yn rhyddfrydwr selog, ac yn arweinydd y blaid yn y dref a'r sir. Efe ydoedd yr un a lwyddodd gan Jones-Parry Madryn i ddod allan fel ymgeisydd yn etholiad 1868. Merch i Syr Hugh Owen ydoedd ei briod, ac yr ydoedd hi yn gefn iddo yn ei gynorthwy i'r achos. Gyda'i gynneddf ymarferol gref, ei ysbryd cenhadol a'i gyfoeth, bu o gryn wasanaeth i'r achos yma mewn cyfeiriadau neilltuol. (Goleuad, 1887, Mai 28, t. 13.)
Ymsefydlodd y Parch. Henry Jones yma fel bugail, Tachwedd 21, 1889, gan ddod yma o Garston. Ymadawodd i Awstralia er mwyn ei iechyd, Mai, 1891. Enillodd ei iechyd yno, ac ymsefydlodd fel gweinidog eglwys Bresbyteraidd Launceston. Yr ydoedd yn wr lled dal, a gallesid fod wedi ei gymeryd yn wr lled gryf. Oherwydd torri ei iechyd i lawr ni wnaeth mo'r argraff ar yr eglwys a'r dref y gallesid fod wedi ei ddisgwyl oddiwrtho; ond yr ydoedd yn wr o gymhwysterau naturiol a chyrhaeddedig cyfaddas i'w ymddiriedaeth.
Medi 18, 1892, y penderfynwyd galw'r Parch. David Hughes, M.A., yn fugail.