Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyflwynwyd i bwyllgor yr adeiladu yn y Cyfarfod Misol gynlluniau yr adeiladau ynglyn wrth y capel, Gorffennaf, 1896. Prynnwyd tŷ yn Chapel Street, er mwyn adeiladu ysgoldy yn y lle, am £190. Traul yr ysgoldy ei hun, £500. Yn 1897 bu farw Cadwaladr Williams, yn flaenor yma ers 10 mlynedd. Yn y coffa am dano yn y Cyfarfod Misol, Mawrth 8, fe ddywedir ei fod yn nodedig oblegid ei ofal a'i ffyddlondeb gyda'r achos. O gynneddf ymarferol gref, bu'n dra ymroddgar i'w fasnach; a bu'r un gallu at wasanaeth yr achos yma. Yn 1898 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: Thomas Williams, J. Trevor Owen meistr yr ysgol sirol, Dr. Fraser. "Heblaw y rhai a enwyd mewn cysylltiadau eraill," ebe James Evans, "bu y rhai hyn yn dra ffyddlon gyda'r ysgol Sabothol yn Turf Square: Henry Owen Stryd llyn, William Jones Ty'n y cei (yn awr yn Llundain) a Thomas Williams yr Afr aur." Y mae Mr. William Jones yn pregethu yn Llundain, er na wyddis gyda pha enwad. Sylwyd yn yr Arweiniol y bu Eifioneilydd yn aelod o'r eglwys hon. Rhoddai gynorth- wy, hefyd, yn yr ysgol Sul. Er na bu'r ysgol hon yn lluosog o ran rhif y bobl mewn oed, eto bu yma o bryd i bryd fwy na chyffredin o lawer o nerth meddwl a helaethrwydd gwybodaeth yn y sawl a ddeuai ynghyd.

Gadawodd Hugh Pugh £100 yn ei ewyllys tuag at ffurfio llyfrgell yma.

Gwna James Evans y sylw yma: "Ym mysg y rhai a fu o ddefnyddioldeb neilltuol ynglyn â'r achos dylid nodi'r Parch. Maurice J. Evans, B.A., yr hwn oedd enedigol o sir Drefaldwyn, ac a fu farw ym Mhenmaenmawr. . . . Bu'n gweinidogaethu gyda'r Annibynwyr Seisnig yn Lloegr. Yr oedd efe'n ddyn tra dysgedig, a chyfieithodd i'r Saesneg o ieithoedd tramor rai llyfrau diwinyddol gwerthfawr, ymysg y rhai y gellir enwi Bywyd Crist gan Caspari. Bu ef yn dra ffyddlon gyda'r achos yn Turf Square, a hynny heb unrhyw. gydnabyddiaeth ariannol, heblaw'r hyn a dderbyniai am wasanaethu yn achlysurol ar y Saboth." Ymhlith y llyfrau a gyfieithodd yr oedd, hefyd, Dogmatic van Oosterzee. Bu'r awdwr ar ymweliad âg ef yng Nghaernarvon, ac yn rhoi anerchiad yn y seiat undebol yn ei iaith ei hun, sef y Fflemineg, gyda M. J. Evans yn cyfieithu fel yr elai ymlaen. Nid oedd M. J. Evans wedi ei lunio i fod yn bregethwr nac yn fugail