eglwys. Ei leferydd oedd anghroew a'i dymer heb fod bob pryd dan ei lywodraeth. Oddieithr hynny, yr ydoedd yn ddyn tyner, boneddig, crefyddol ei ysbryd, ac yn ddiau yn cwbl deilyngu'r ganmoliaeth a roddir iddo uchod.
Bu y rhai yma yn arwain y canu: W. Williams, David Edwards, W. J. Williams (a fu wedi hynny yn arwain canu Engedi), Robert Lewis y pregethwr, Mrs. Jones diweddar briod Mr. T. O. Jones, J. H. Roberts, Mus. Bac., W. H. Parry. Gofelid am y Gobeithlu gan y Capten Richard Jones.
Un peth yn hanes yr eglwys hon a wnaeth argraff go neilltuol ar y pryd oedd byrdra tymor gweinidogaethol tri gwr, y naill ar ol y llall, a'r tymor byrr hwnnw yn dibennu mewn gwaeledd iechyd, y fath a orfu i ddau ohonynt fyned i'r Awstralia, ac i'r llall fyned i'w hen aelwyd, i ddibennu ei yrfa yno ar fyrder. Y mae James Evans yn cyfeirio at hyn, a dywed ddarfod i rai eu cyhuddo—" mewn ysmaldod feallai" o "ladd y proffwydi." Nid rhyw gryf iawn ychwaith, debygir, ydoedd gweinidog cyntaf yr eglwys yn myned oddiyma, ar ol tymor byrr o wasanaeth. Pa ddelw bynnag, y mae'r gweinidog presennol yn medru aros yn ei le, ac nis gall ef gymeryd cwyn y brenin Dafydd ar ei wefus, a datgan fod meibion Serfiah yn rhy gryfion iddo. Ac heblaw hynny, mynn James Evans "nad oedd achos afiechyd yr un ohonynt i'w briodoli i'w gysylltiad à Chaernarvon." A chan ei fod yn gyfarwydd â'r holl amgylchiadau, ac yn wr o farn, diogelaf fydd derbyn ei eglurhad ef.
Cyhuddiad a roir yn erbyn yr eglwysi Saesneg ydyw nad ydynt yn gweini i anghenion ond nifer bychan o Saeson. Y mae James Evans yn cyfarfod y ddadl: "Y mae 68 o'r aelodau eglwysig yn Saeson unieithog [yn 1902], 25 o blant ein haelodau yr un modd, a 42 o'r gwrandawyr [sydd heb fod yn aelodau]. Y mae 16 o'n haelodau yn blant i dad neu fam Seisnig; y mae 43 o'r plant sydd heb fod yn gyflawn aelodau yn blant tad neu fam Seisnig; ac y mae 18 o'r gwrandawyr yr un modd. Y Cymry yn ein mysg a wneir i fyny fel hyn: 67 yn aelodau eglwysig, 14 yn blant i aelodau; II yn wrandawyr." Sylwir gan James Evans, hefyd, fod cyfangorff mawr yr aelodau a'r gwrandawyr wedi eu magu gyda'r Methodistiaid, ond fod amryw yn y naill ddosbarth a'r llall wedi eu magu gydag enwadau eraill. Sylwir ganddo ymhellach, mai ar wa-