Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bechgyn. Craffer ar yr enw cynhesol a roir gan fechgyn y dref ar ei gilydd-" hogiau'r dref." Tebyg fod y dylanwad yn un cymhleth, yn cynnwys y golygfeydd, yr hynafiaethau, a'r dylanwadau cymdeithasol. Dyfynnir yn Old Karnarvon (t. 137), linellau o eiddo brodor o'r gymdogaeth, sef caplan i William Thomas, yn amser y Frenines Elizabeth, sef sylfaenydd teulu Coed Alun:

Dyn wy'n byw, drwy nerth y Tad, ymhell o'r wlad yn estron,
Wyf ofalus (a phaham?) o hiraeth am Gaernarvon. . .
Hoff yw gennyf enwi mro, caiff filoedd o anerchion :
Anwyl ydoedd unrhyw ddydd, ac eto fydd Caernarvon. . .
O Landwrog (mawr yw mriw!) a throedle gwiw Glynllifon,
Yno'n fynych mynnwn fod,-tydi piau clod Caernarvon. . .
Syr Sion Gruffydd, ymhob sir, y'm gelwir, heb orchestion.
Ewch yn iach dan un i gyd, nes del fy ngwynfyd weithion,
O drugaredd y Mab rhad, a gweled gwlad Caernarvon.
Yn iach eilwaith, un a dau, gan wylo dagrau gloewon;
Yn iach ganwaith, fawr a bach, ac eto yn iach, Gaernarvon!

Yr oedd yr hen dref ar goryn bryn, rhyw chwarter milltir o ganol y dref bresennol ar ffordd Beddgelert. Dyma ydoedd Segontium y Rhufeiniaid a Chaer Saint yr hen Gymry. Y mae muriau yr hen dref yn aros o hyd mewn rhan. Yn ddiwedd- arach, gerllaw eglwys Llanbeblig, y codwyd Cae'r Sallwg, Cododd Hugh Fleddyn, iarll Caer, gaer ar safle'r dref bre- sennol yn 1098. yn 1098. Ceir yr enw Caernarvon gan Gerallt Gymro yn 1188. Tybir gan rai i Iorwerth II. gael ei eni yn y castell yn 1284; tybir gan eraill mai prin y gallasai muriau'r castell fod wedi eu hadeiladu erbyn hynny.

Y mae'r dref o fewn y muriau, sef fel yr ydoedd ar y cyntaf, ar ffurf betryal, y castell i'r de, a chaerau gyda thyrau arnynt ar yr ochrau eraill. Erys y muriau, oddieithr lle torrwyd hwy i lawr er mwyn cyfleustra masnach, sef wrth Pen deitsh a'r Guild Hall. Yr oedd i'r dref dair heol wedi eu croesi gan dair eraill. Y mae un ohonynt bellach wedi ei chau mewn rhan, sef yr un a red gyferbyn ag Eglwys Fair. Rhed y brif heol rhwng y Porth mawr a Phorth yr aur; ac ar ganol honno, lle cyferfydd Heol y castell â Heol y farchnad, yr oedd y Groes gynt, megys yn yr hen drefi i gyd. Tynnwyd y Groes i lawr yn y rhan fwyaf o lawer o leoedd ar ol y Diwygiad Protestanaidd. Gresyn, er hynny, oedd anharddu y cynllun cyntefig hwn.