Sylwir gan Owen Williams yn ei Eirlyfr, fod tref fechan hardd, drionglog o ran ffurf, wedi ei hadeiladu yn ystod 1815-35, yn ymestyn oddiwrth y tai a wyneba'r maes yn ei ran isaf hyd y Royal Hotel.
Bu yma amryw hen blasau, a rhai ar gynllun gwych, megys y Plas Mawr, a dynnwyd i lawr oddeutu 85 mlynedd yn ol. Dywedai H. Longueville Jones, beirniad teilwng ar y pwnc, gan ysgrifennu yn 1829, ei fod o ran oedran a chynllun yn cyfateb i'r palas clodfawr yng Nghonwy. Y tŷ hwn a roes ei enw i Heol y Palas, a safai lle mae'r farchnad yn awr. Ni chynwysai'r heol yn 1788 ond 16 o dai, a £50 15s. oedd cyfanswm y rhent. Rhent y Red Lion y pryd hwnnw ydoedd £4 10s. Codwyd tri o dai ar ei safle, ac yr oedd y rhenti arnynt ychydig dros 30 mlynedd yn ol yn £130. Erys rhai o'r hen dai hyn o hyd, ond gyda chyfnewidiadau ynddynt, megys Porth yr aur, preswylfod Mr. R. D. Williams; Plas Bowman, offis y llys sirol; Plas Llanwnda yn Heol y castell, preswylfod gaeaf R. Garnons, y sonir am dano ym Methodistiaeth Cymru; Plas Spicer yn Heol yr eglwys, lle saif rhif 4 yn awr; Plas Pilston, sef y Red Lion wedi hynny; Plas Isa, yn ymyl y Dollfa. Hendref y gwr boneddig ydoedd y rhai'n ar un adeg, pryd yr oedd yr hafod yn y wlad. Pe buasai nifer o'r hen dai hyn wedi eu harbed, yn eu ffurf gyntefig, hwy a arosasent yn wers i'r llygaid o wir brydferthwch mewn adeiladwaith.
Ynghanol y ddeunawfed ganrif yr oedd yn dymor o galedi mawr yn sir Gaernarvon, a bu pobl o'r wlad yn dod i'r dref yn llu gyda'i gilydd gyda'r amcan o gymeryd meddiant ar yr yd oedd wedi ei ystorio yn y dref. Fe welir yn Llythyrau y Morrisiaid ddau gyfeiriad at y cynhyrfiadau hyn. Dyma un ohonynt: "Chwefror 13, 1758: Bu ryfel yr wythnos ddiweddaf yng Nghaernarvon. Y mob a ddaethant o'r chwarelydd a'r mwngloddiau, ac a aethant i'r gaer, ac a dorasent ystorsau ac a werthasant yd, menyn a chaws am iselbris, yno meddwi a chware mas y riwl. Codi a orug y Caeryddion yn eu herbyn mewn arfeu, lladd un, anafu eraill, carcharu rhyw fagad, a gyrru'r lleill ar ffo. Rhaid i'r Ffrench ddyfod i'n hymweled i Frydain, i edrych a wna hynny ein cytuno â'n gilydd; ni bu erioed y fath wallgofiad ar bobloedd." Yn llythyr William at Richard Morris y ceir hyn. Ceir hanes manwl yn Old Karnarvon am "ryfel" gyffelyb yn Ebrill, 1752.