Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BEULAH.[1]

YN haf 1882 fe ddechreuodd ryw symudiad yng ngwersyll Engedi o blaid ysgol Sul ar gyfer esgeuluswyr yn Henwalia. Yn ystod yr un haf fe brynnwyd 528 llathen ysgwar o dir am £150, gan olygu ar y pryd fod yma ddigonedd ar gyfer yr amcan mewn golwg; er, ar ol hynny, y teimlwyd mai cul oedd y cwrlid i ymdroi ynddo. Yr oedd y tir mewn lle canolog a chwbl gyfleus o ran y pellter, ond nid mewn lle cyfaddas i adeilad arno dynnu dim sylw ato'i hun.

Ar ol y cychwyniad yma, yn o araf y symudid ymlaen. Nid cwbl foddlon, wedi'r cyfan, oedd pawb yn yr eglwys i gychwyn moddion ar wahan yn y lle yma. Yn nechre haf 1885 y dechreuwyd hwylio at godi ysgoldy neu gapel. Trefnwyd iddo gynnwys eisteddleoedd i 300, ac i fod o ran ei fesuriad yn 42 troedfedd wrth 39. Gosodwyd y gwaith am £520.

Yn 1886 y dechreuwyd adeiladu. Rhowd carreg yn wyneb y capel yn dwyn yr argraff yma: "Can mlynedd yn ol y sef- ydlwyd achos y Methodistiaid Calvinaidd yn y dref hon." (Ar amseriad cychwyn yr achos yn y dref edrycher Moriah). Pen- odwyd 4 brawd a blaenor i gymeryd gofal yr achos yn Beulah, canys dyna'r enw ar yr adeilad. Dyma'r enwau: Evan Jones i ofalu am y canu, Owen Jones yr Eryri, John Williams, Nath Roberts. Ni enwi'r mo'r blaenor.

Agorwyd y lle fel ysgoldy, Hydref 14, 1886, drwy bregeth gan weinidog Engedi, sef y Parch. Evan Roberts. Cynhelid ysgol y bore, pregeth y pnawn, cyfarfod gweddi yr hwyr. Yn achlysurol fe geid pregeth yn yr hwyr. Rhaid ydoedd chwanegu, hefyd, at y brodyr a nodwyd, er dwyn y gwaith ymlaen yn effeithiol.

Rhagfyr 2, 1886, fe gynhaliwyd yma gyfarfod mewn coffadwriaeth o sefydliad Methodistiaeth yn y dref. Cymerwyd y gadair gan Owen Roberts, blaenor Engedi. Rhoes W. P. Williams grynhodeb o hanes Methodistiaeth yn y dref. Yn ystod ei araeth, fe ddywedodd ei fod yn cofio y tir y safai Beulah arno yn ardd, a pherchen yr ardd honno oedd John

Gibson, sef un o aelodau cyntaf y Methodistiaid yn y dref, ac

  1. Ysgrif Mr. Moses Evans.