Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/275

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ewythr Gibson y cerflunydd. Cof gan W. P. Williams am dano ar ei liniau yn chwynnu'r ardd ac yn gweddio bob yn ail. Nid annichon fod John Gibson heddyw yn gweled mwy o ffrwyth ar ei ardd na ddisgwyliodd y pryd hwnnw, er cymysgu ohono ei lafur gyda'i weddiau. Cyfarchwyd y cyfarfod gan R. R. Roberts, Henry Edwards a'r Parch. Evan Jones. (Gweler gyfeiriad at sylwadau Henry Edwards yn yr hyn a ddywedir arno ynglyn à hanes Siloh). (Goleuad, 1886, Rhagfyr 11, t. II.)

Yr oedd awydd bellach yn y rhai a ddaeth i ofalu am y gwaith am sefydlu eglwys yma. Yn erbyn hynny yr oedd plaid gref yn Engedi. Wedi cryn ymdrafod gorfu'r blaid oedd dros eglwys yma. Bu dadleu brwd drachefn ynghylch swm y gynysgaeth i Beulah. Fe gyrhaeddai'r holl dreuliau i £800. Penderfynwyd fod y fam-eglwys i ddwyn y naill hanner a'r gangen-eglwys yr hanner arall, er y teimlid yma fod hynny yn faich trwm.

Yn ddilynol i hyn fe wnawd rhai atgyweiriadau ar y capel. Gwnawd pulpud mwy cyfaddas; rhoddwyd nenfwd cryfach a harddach; y naill a'r llall ynghyd agos yn £100 o draul. Rhowd ystafell yn y cefn i gynnal cyfarfodydd canol wythnos ar draul o £120. Erbyn diwedd 1900 yr oedd y ddyled wedi ei thynnu i lawr i £150.

Gorffennaf, 1887, penderfynu sefydlu eglwys yn Beulah. Yng Nghyfarfod Misol Awst 1, penodi'r Parchn. R. Humphreys a W. Jones Felinheli ynghyda Henry Edwards (Siloh) i sefydlu'r eglwys. Yng Nghyfarfod Misol Medi 5, cadarnhawyd adroddiad y sefydlu. Dywedir yn y cofnodion yn y Goleuad mai 43 oedd rhif yr eglwys ar y sefydliad; gan Mr. Moses Evans y mae'r rhif yn 45. Fe sylwir na nodi'r y diwrnod y sefydlwyd yr eglwys.

Yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr 14, 1887, yr oeddid yn derbyn blaenoriaid yma o Beulah: William Jones, Evan Jones, Griffith Owen, John Williams. Yn 1889 galwyd John Jones yn flaenor, a ddaeth yma o Glawddnewydd. Ionawr 27, 1890, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu Mr. R. D. Rowland (Anthropos). Aelod o Siloh ydoedd cyn ei alw yma.

Yng Nghyfarfod Misol Ebrill 20, 1891, fe hysbyswyd am farwolaeth John Williams, yn un o'r blaenoriaid cyntaf yma. Dywedir yn y cofnod y gwnawd coffhad serchog am dano, ac