Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo fod yn dra ffyddlon fel blaenor yma. Hysbysir, ymhellach, ddarfod iddo ddangos gwir ofal calon am yr achos, yn gymaint a gadael ohono £100 yn ei ewyllys tuag ato. Yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr 11, 1893, yr oeddid yn derbyn fel blaenoriaid: Owen Jones yr Eryri, Hugh Hughes, R. D. Roberts. Yr un flwyddyn fe alwyd Methusalem. Griffith i'r swydd, a ddaeth yma o Benygraig.

Yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr 6, 1897, fe wnawd coffhad am John Jones, yn flaenor yma ers 8 mlynedd. Yr oedd ef yn wr crâff mewn amrywiol ffyrdd. Fe sefydlai ei olwg ar ddyn neu ar beth megys gyda bwriad i edrych cryn ffordd drwyddynt; ac os na welai efe'n deg drwy ddyn neu beth, ond odid na welai beth o ffordd drwyddynt, o leiaf, ac yn fynych fwy na pheth. Yr oedd llinellau craffineb yn ymestyn ymlaen o gonglau ei lygaid. Meddai ar gryn lawer o wybodaeth gyffredinol, yn enwedig yn y gyfraith; ac nid oedd ychwaith yn ol mewn. gwybodaeth ysgrythyrol a diwinyddol. Hunan-ddiwylliant, fe ddichon, oedd ei brif nôd, yn hytrach na diwyllio eraill. Eithr gyda'r ymdrech i ddiwyllio'i hun mewn gwahanol gang- hennau, fe gyfunodd, hefyd, gysondeb canmoladwy mewn dilyn. ordinhadau yr eglwys.

Bu farw Methusalem Griffith, Rhagfyr 17, 1897, yn 66 oed, yn flaenor yma ers tua 4 blynedd ac ym Mhenygraig cyn hynny. Daeth yn ieuanc, yn chwarel Dinorwig, i gyffyrddiad â rhai dynion o gymeriad cryf, duwiolfrydig; a gadawsant eu hol arno byth. Bu'n ffyddlon i'r ddyledswydd deuluaidd. Adnabyddid ef ymhob cylch fel dyn cywir, siriol, cymdeithasgar a gwir grefyddol. Y Sul diweddaf iddo ar y ddaear methu ganddo fyned i'r ysgol, pryd y galwodd cydflaenor iddo gydag ef. "Cofia," ebe'r gwr hwnnw wrtho, "y rhaid i ti ymdrechu dod i'r ysgol y Sul nesaf, gan fod dy ddosbarth yn disgwyl wrthyt." "Na," ebe yntau, "mi fydda'i ynghanol y nefoedd erbyn hynny." Yn ystod yr wythnos honno fe aeth i wrando darlith y Parch. Edward Lloyd Gatehouse ar y Tabernacl yn yr yn yr An- ialwch. Mawr fwynhaodd y ddarlith, a chyn un ar y gloch brynhawn drannoeth yr ydoedd yn y cyflwr paratoawl i'r gwir dabernacl neu gorff yr atgyfodiad. (Drysorfa, 1899, t. 187. Edrycher Penygraig.)

Yn 1899 daeth Mr. Moses Evans yma o'r Gerlan, lle'r ydoedd yn flaenor, a galwyd ef i'r swydd yma.