Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/277

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yng Nghyfarfod Misol Ebrill 23, 1900, fe wnawd coffhad am William Jones, yn flaenor yma ers 13 blynedd. Dyma'r sylw: Hefyd, am Mr. William Jones Beulah, yntau'n wr tra chrefyddol, o gymeriad pur, ffyddlon yng ngwahanol ran- nau'r gwaith, yn enwedig fel athro yn yr ysgol Sul. Bu am 20 mlynedd heb golli ond 3 neu 4 o weithiau o'r ysgol. Er yr amhariaeth a fu ar ei feddwl yn ei flynyddoedd diweddaf, rhoes. argraff ddofn ar feddyliau y rhai o'i gwmpas ei fod yn ddyn. duwiol, a duwiol iawn." Mab iddo ef ydyw Mr. Ben Jones, arweinydd y canu ym Moriah. Y mae llewyrch ar y dosbarth darllen, ar y Gobeithlu, ac ar y Gymdeithas Lenyddol. Er fod Beulah yr eglwys leiaf of ran nifer gan y Methodistiaid yn y dref, megys ag mai hi, hefyd, yw'r ieuengaf, eto y mae iddi rym a hoewder. Bellach y mae'r gweinidog yn cyflawni'r swydd bwysicaf yn y Corff, sef fel golygydd Trysorfa'r Plant; ac o'r twr gwylio hwnnw y mae'n cyrchu newyddion o bell i blant Beulah. Yn nhir Beulah y clywodd Cristion a Gobeithiol ganiadau'r adar, y gwelsant y blodau ar y ddaear, y clywsant lais y durtur yn y wlad.

Rhif yr eglwys yn 1900, 110.


CAERNARFON

Argraffwyd gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig Cyf.

Swyddfa "Cymru."