fordaith. Y tâl i Foel y don, 4c.; i'r Garth, 8g.; i Biwmaris, 10c. Byddai llythyr—gludydd sir Feirionydd yn myned fore ddydd Llun, ac yn dychwelyd nos Fawrth; ac eilwaith elai ddydd Gwener a dychwelai yn ol nos Sadwrn. . . Yr oedd yma ychydig o longau bychain, rhyw 5 neu 6 o lympiau crothog, diolwg; ni wnaent ond tair neu bedair siwrnai i Nerpwl ac yn ol mewn blwyddyn. . . . Hanner coron oedd y tâl am fyned i Nerpwl neu Gaer. Byddai weithiau brinder nwyddau masnachol drwy'r holl dref—y glo wedi darfod gan bawb drwy'r lle, dim i'w gael am arian. Dro arall byddai'r halen yn brin: yr wyf yn meddwl ei fod yn 6ch. y pwys. Yr oedd mewn rhyw ddirgel fan o'r dref nyth o smugglers a chanddynt halen, ond ni chaffai pawb ef ganddynt. Ar ol y cwbl, halen bras, addas i halltu penwaig oedd hwnnw; ond yr oedd yn dda ei gael, gan nad oedd ei well. Gwerthent ef am 4c y pwys. Byddai'r te, hefyd, yn brin yn lled fynych; ond ychydig iawn oedd yn gallu fforddio prynnu hwn, oherwydd fod y math gwaelaf ohono yn 8c. neu ragor yr owns, ac anfynych y cyfarfyddid a thecell mewn ty. Costiai pwys o siwgr o 10c. i 14c. . . . Yr oedd un o longau y llywodraeth yn hwylio rhwng yr Iwerddon a Chaergybi, a cherbyd 4 ceffyl yn cludo'r teithwyr ymlaen oddiyno at Borthaethwy, a'r cychod yn eu cario drosodd, ac yna aent ymlaen mewn cerbyd arall; fel hyn byddent ddiwrnodiau ar eu taith cyn cyrraedd Llundain." Fe gofir am y tymor a ddygir i sylw, mai cyfnod dechreuad cynnydd Methodistiaeth yn y dref ydoedd; ac os nad all y darllenydd lunio iddo'i hun ddrych o gyflwr allanol y bobl oddiwrth yr atgofion hyn, yna nid bai "un o fechgyn y ddeunawfed ganrif," fel y geilw ei hun, a fydd hynny.
Am yr un cyfnod y sonia Anthropos yn ei ysgrif, ar ddull dychmygol, am Gaernarvon y ddeunawfed ganrif. Cyfeirir ganddo at deithlyfr Hutton yn cofnodi taith yn 1799, a gwna i Hutton lefaru yn y modd yma: "Gresyn fod yr hen balasau wedi eu gado heb drigiannydd. Bum drwy amryw ohonynt, ac yr oeddwn yn edmygu'r adeiladwaith cywrain a chelfydd, y muriau llydan, clyd, a'r derw du Cymreig. Nis gellir sangu'r neuaddau eang heb deimlo rhyw ias od, gyfriniol, yn ymdaenu drosom—atgof am ogoniant a fu—pan oedd y lle yn adsain gan lawenydd a chân. Dyma restr ohonynt: Plas Pilston, Plas mawr, Plas Spicer, Glanrafon, Quirt, Plas Llanwnda, Plas