adeiladu o gerrig nadd; ond nid oedd na thô na drws na ffenestr arno; ond yr oedd ffenestri y seleri yn agored, drwy ba rai yr arllwysid ysgubion yr heolydd, a phob budreddi o'r tai. Yr oedd yn nodedig o ffiaidd i'r tramwywyr... Cynhelid y farchnad ar ganol y brif heol. O waelod yr heol i'r Porth mawr, byddai byrddau ar ganol yr heol at osod yr amrywiol nwyddau, hen wragedd Niwbwrch gyda'u basgedi cocos, y cewyll, yr afalau, &c., y cryddion â'u hesgidiau, y tatws a'r maip, &c. Byddai y menyn mewn basgedi ar risiau y siopau, eraill yn gwerthu ieir mewn basgedi, eraill wyau, a gwyddau yn eu hamser, &c. Ambell un gyda chwart neu fwy o yd, rhai flawd ceirch, &c. Ond byddai y farchnad yd yn Heol y farch- nad, a'r cigyddion ar hyd ochrau y Stryd fawr. . . . Byddai ambell un yma ac acw yn canu a gwerthu cerddi, a Pegi y Drum Major, fel y gelwid hi, gyda throell loteri, yn llefain â'i holl nerth, Hwi, lancia bach, dyma hi, troell y nain yn nyddu, dau i lawr dau yn eisieu, preis neu bres bob tro.' . . . Ceid gweled merched a phlant yn hel grug ar y mynyddoedd, ac yn dyfod yn fore i'r dref i'w werthu. Gwelid plant bychain o 6. i 7 mlwydd oed, yn dyfod yn goesnoeth droednoeth, â sypyn bychan fel nyth bran ar eu pennau i'w werthu. Ar ol cerdded dair milltir neu ragor fe'u gwerthent am geiniog neu ddwy. Nid oedd ysgolion y pryd hynny i roddi plant ynddynt. . . . Nid oedd y tý a elwid Pedwar a chwech ond braidd yn sefyll gan mor waeled ydoedd. Yr oedd y lle o'i amgylch yn ffiaidd. iawn oherwydd bod yno amryw domenydd a chytiau moch a budreddi eraill. . . . Daeth amser caled ar grefft wyr, dim gwaith braidd i neb; a bu mawr eisieu ymborth ar lawer. Pen- derfynwyd gan y Corporation roddi gwaith i'r neb allai weithio, a chariwyd y ddau faes drosodd i'r môr. Ac felly dechreuwyd helaethu y cei, a alwyd cei newydd. . . . Ar glwt y mawn [Turf Square] byddai hen wragedd o'r mynyddoedd yn gwerthu grug a mawn bob dydd. Byddai ganddynt ferlod yn cario'r mawn. Byddent yn cynnal eu marchnad yn y bore. . . . Nid oedd llythyr-gludydd amgen na bachgennyn yn myned ar ferlen am Fangor bob bore, ac yn dychwelyd at 7 yr hwyr. Nid oedd un math o gerbyd i gludo teithwyr yma a thraw; ond byddai hen wr o Danybont yn hwylio mewn cwch ddwywaith yn yr wythnos am y Borth, a thrwyn y Garth, a Beaumaris. Byddai yn angenrheidiol aros am dywydd addas cyn anturio i'r
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/31
Gwedd