Clywodd Mr. R. R. Jones (Penygroes) Martha Gruffydd, nain yr hynafgwr Owen Prichard, a fu yntau farw rai blynyddoedd yn ol, yn adrodd yr hyn a gofid ganddi am arfer bechgyn ieuainc ar y Suliau. Elent yn lled lwyr ynghylch eglwys Llanwnda, a byddai rhai yn myned i'r gwasanaeth. Honno ydoedd yr eglwys agosaf i drigolion y Bont. Ar ddiwedd y gwasanaeth rhuthrai y llanciau allan gan daflu'r bel o'u blaen, ac yna byddai'r lleill o'r tuallan yn ymuno yn y chware. Ar Suliau braf cadwai'r person gyfrif y pleidiau.
Yr oedd y Bont ei hun hyd ymhell i mewn i'r ganrif ddiweddar yn gyrchfan nodedig i ymladdwyr y cymdogaethau. Sonir am un gwr a darawodd ei gyd-ymladdwr yn farw ag un ergyd. Yr oedd ffair llogi'r Bont ar un adeg yn nodedig am ei gwylltineb a'i chynnwrf. Ac hyd yn ddiweddar yr oedd y lle nid yn anhynod am ei poachers. Yr oedd amryw o'r gwyr hyn yn. ddynion o alluoedd naturiol go gryfion. "Mi fuasai'n dda. gennyf," ebe un o honynt rai blynyddoedd yn ol, "pe na thynasid fi erioed o groth gwraig." Aeth un o'r nifer, na enwir mono yma, dan argyhoeddiad, ac aeth drwy gyfnewidiad buchedd mor llwyr, fel na amheuid ei gywirdeb fyth gan neb o'i hen gymdeithion. "Dyna ddyn a gafodd dro," ebynt hwy. Darfu i un o frodorion y dref, a anwyd ym mlynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif, heb adael i'w enw ymddangos, ysgrifennu ei atgofion am y dref fel yr ydoedd yn nechre y bedwaredd ganrif ar-bymtheg. Defnyddiwyd yr atgofion hynny yn helaeth gan awdur Old Karnarvon, a chyhoeddwyd hwy drachefn yn gyflawn yn y Traethodydd am 1905. Rhoir dyfyniadau yma: "Cyfanswm y dref y pryd hynny ydoedd, gan mwyaf, tufewn i'r caerau, ac ychydig y tuallan iddynt. Yr oedd llawer o'r tai o wneuthuriad oesau blaenorol, a'u defnyddiau o goed derw plethedig â gwiail, wedi eu gorchuddio â chalch, ac yna dwbio graean arno. Yr oedd y llofftydd yn taflu allan dros. y muriau 3 neu 4 troedfedd. Yr oedd yr olwg arnynt, fel yr hen Red Lion gynt, yn barod i syrthio. . . . Yr oedd y ffenestri yn fychain, eraill heb wydrau arnynt o gwbl, ond bwrw y shutters i lawr ar ddau fraich o brennau, yn taflu allan o waelod y ffenestr. Ar y rhai hyn y byddai y siopwr yn gosod allan ei nwyddau. . . Yr oedd adeilad enwog gynt ar ben Heol y farchnad. lle y mae marchnad y cigyddion yn bresennol. Bu hwn yn adeilad ardderchog ryw oes: yr oedd wedi ei