Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y divil. Gelwid twrne yn y dref yn Robyn y mul. Pan oedd y Dr. Arthur Jones yn gofyn am ei drwydded i bregethu, dywedodd cadeirydd y sesiwn wrtho y rhoddai Robyn y mul hi iddo. Ar hynny, gofynnai yntau'n ol, gan gyfarch y fainc, Prun ohonochi, foneddigion, ydyw Robyn y mul? Sonir yn yr un llyfr am ofergoeledd y bobl. Galwai gwraig gyfarwydd yn wythnosol yn nhŷ Sion a Doli'r eithin, yn agos i'r fan y saif Moriah arno. Siani Llanddona ydoedd ei henw, a galwai lliaws gyda hi er cael clywed eu ffortiwn. Hen wrach arall a breswyliai ger Bont bridd, a honnai ddarfod i Grist ddanfon llythyr ar groen iddi, ac i angel ddatguddio y fan lle dodid ef, sef dan garreg, ac am hynny fe'i gelwid ganddi yn llythyr dan garreg. Dodid y llythyr hwn ar fynwes merched ieuainc, a chredid ganddynt y galluogid hwy drwy'r gyfaredd honno i ddehongli eu dyfodol eu hunain. Sonir, hefyd, ar dystiolaeth y Parch. H. Longueville Jones, am wraig gyfarwydd yng Nghaernarvon mor ddiweddar ag 1856, a bod bri arni y pryd hwnnw ym Môn. Rai blynyddoedd yn flaenorol, llwyddodd i ddwyn yn ol arian a ladratawyd o ffermdy ger Llandegfan. Wedi gweled y fan lle dygwyd yr arian, gwysiodd yn ffurfiol y lleidr i'r byd anweledig o fewn blwyddyn o oediad, os na ddychwelid yr arian. Cyn i'r oed derfynu, lluchiwyd yr arian yn y nos drwy'r ffenestr i mewn i'r tŷ.

Yn y Llyfr glas am 1847 (t. 527) rhoir y dystiolaeth yma am gyflwr moesol y dref gan W. P. Williams: "Y mae yna lawer iawn o ddygn dlodi, budreddi a thrueni yng Nghaernarvon, gan mwyaf i'w holrain i anfoes ac anwybodaeth. Gallaf enwi tri lle yn arbennig yn y dref hon, sef Glanymor, Tanrallt a Thre'r- gof, lle nad oes gan liaws o deuloedd ond un ystafell i fyw ynddi, a honno ond 9 troedfedd ysgwar, gyda llawr pridd, a'r awyriad yn ddrwg arswydus. Nid oes i'r ystafelloedd hyn ond un ffenestr, rhyw droedfedd ysgwar, a phob pryd yn gaëedig. Gyda'r eithriad o ryw rai mewn henaint, gwaeledd a gweddwdod, y mae tlodi yng Nghaernarvon yn gyffredin yn ddyledus i lygredigaeth y bobl. Y mae cyflogau yn dda yma. Y mae'n ddyledus i'r ffordd haearn yma fod 2s. 6ch. yn awr yn cael ei dalu lle telid 1s. 6ch. gynt. Gall dynion abl i waith ei gael ar bob adeg os mynnant, ac am gyflog da. Eithr fe lifa pobl i'r trefydd o'r wlad oddiamgylch i gael eu lletya yn y mannau budron hyn, ac i gardota. Y mae Caernarvon yn llawn o'r