Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfryw. Y mae'r trethi yn awr yn swllt pryd nad arferent fod ond grôt. Y drwg pennaf yn y dref hon ydyw meddwdod. Daw lliaws o'r rhai a enillant 20s. yr wythnos, a rhai a enillant 26., a dim ond 5s. adref i'w teuluoedd, a rhai ddim ond 3s.; gwerir y gweddill yn y dafarn. Nis gall eu teuluoedd ddod i le addoliad, nac i ysgol chwaith ar y Sul neu ddiwrnod arall. Nid oes ganddynt ddillad. Gwnelai ysgolion carpiog fawr les ymhlith y bobl hyn. Y mae'r ddwy a sefydlwyd gan y Methodistiaid eisoes wedi gwneud dirfawr les. Daw y plant iddynt gydag ychydig iawn am danynt." Ond odid nad oedd rhai o'r ymadroddion hyn, yn y ffurf y maent i lawr yma, braidd yn eithafol, ac nad allesid fod wedi eu cymedroli yn fwy. Yn Saesneg yr ysgrifennwyd hwy, a thebyg y llithid yr ysgrifennydd, yn ddiarwybod iddo'i hun, i ffurfiau o ymadrodd mwy eithafol wrth geisio cyfleu ei feddwl yn gryf a phendant yn yr iaith honno. Ychwanegir y dystiolaeth hon gan Caledfryn: "Yng Nghaernarvon, os ewch o'r tuallan i'r gwahanol gylchoedd crefyddol, prin y cewch gymaint ag un dyn ieuanc nad yw'n ymroi i ysmocio ac yfed, a phethau gwaeth. Y maent yn fwystfilaidd yn eu harferion yn y dref hon." Tybed nad oedd yr un esgusawd yn addas yma ag a rowd ynglyn â'r dystiolaeth flaenorol?

Y mae Caernarvon wedi dod yn dref argraffwyr. Eithr mawr y cyfnewidiad yn yr ystyr hwn rhwng Caernarvon yn y bedwaredd ganrif arbymtheg a'r ugeinfed ragor yn y ddeunawfed. Yn y ddeunawfed ganrif ni chyhoeddwyd yma namyn un peth, hyd y gwyddis, sef Carol ar goncwest gwyr y Gogledd, gan Edward Jones Maesyplwm, 1797. Dyna'r dernyn cyntaf a ddaeth allan o wasg y dref. Thomas Roberts oedd yr argraffydd. Cyhoeddodd Thomas Roberts y rhifyn cyntaf o'r Eurgrawn yn 1800, a'r ail yn 1807, sef y cwbl a ddaeth allan o'r wasg, y naill a'r llall dan olygiad Dafydd Ddu Eryri ac eraill. Daeth Peter Evans ag Awdl Elusengarwch allan yn 1820, a Hanes y Byd a'r Amseroedd gan Simon Thomas yn 1824. Daeth Lewis Evan Jones a'r Diddanwch Teuluaidd allan yn 1817 a'r Bardd Cwsc yn 1825 a'r Tri Aderyn yn 1826. Daeth Robert Griffith â Thestament Salesbury allan yn 1850. Cyhoeddodd Hugh Humphreys rai pethau pwysig, megys Addysg Chambers, ail gyfrol, yn 1856, Golud yr Oes yn 1862, Gorchestion Beirdd Cymru yn 1864, cyfieithiad o Robinson Crusoe yn